08/05/2009

Hawaii - Llais dros Sofraniaeth

Bydd y ffilm ddogfen 'Hawaii – A Voice for Sovereignty', sy'n rhoi golwg ar ymdrech brodorion Hawaii i warchod eu diwylliant, yn cael ei dangos am y tro cyntaf yn Washington, UDA, ar 4 Mehefin, 2009. Yn y ffilm mae Catherine Bauknight, ffoto-ohebydd, yn edrych ar berthynas arbennig y brodorion â'r tir ac ar yr agweddau ysbrydol ar y berthynas honno.

Mae UDA yn rheoli Hawaii er 1893 ac afraid dweud bod newidiadau mawr wedi bod yn y gymdeithas, yn yr economi ac yn ecoleg yr ynysoedd oddi ar hynny. Cafodd yr Hawaiieg ei gormesu am ddegawdau lawer ond dechreuwyd sefydlu ysgolion a drwythai blant yn yr iaith yn 80au'r ugeinfed ganrif.

Amcan y ffilm ddogfen yw codi ymwybyddiaeth o'r problemau sy'n wynebu'r Hawaiiaid brodorol heddiw.

http://www.prlog.org/10230324-capitol-hill-screening-of-hawaii-of-voice-for-sovereignty.html

http://www.catherinebauknight.com/

No comments: