28/05/2009

Argyfwng y Llaeth

Ers wythnos bron mae cynhyrchwyr llaeth yn Ewrop yn dangos eu cynddaredd, ac mae rhai Llydaw, gwlad lle y mae’r diwydiant llaeth yn bwysig, yn eu plith. Mae'r prisiau y mae’r hufenfeydd yn eu talu i’r cynhyrchwyr llaeth wedi gostwng o 30% yn ystod y flwyddyn a aeth heibio.Er mwyn tynnu sylw at eu hargyfwng mae’r cynhyrchwyr llaeth wedi dechrau gweithredu’n uniongyrchol, gan gynnwys gwrthod rhoi llaeth i’r casglwyr diwydiannol, arllwys llaeth yn y strydoedd a hyd yn oed rhoi llaeth i ffwrdd am ddim i siopwyr.


2 comments:

Blewyn said...

Hen amser i ffermwyr Prydain dyfu par a cydweithio i wrthwynebu grym y dairies mawr a'r archfarchnadoedd.

teod-karv said...

Rhaid imi ddweud nad wy'n deall manylion y sefyllfa a'r problemau sy'n deillio o reolau'r Undeb Ewropeaidd, ond mae'n amlwg bod argyfyngau niferus ym myd amaeth, a bod yr archfarchnadoedd yn un o'r pethau sydd yn gwaethygu pethau.