10/05/2009

Anthem genedlaethol Llydaw yn diasbedain drwy Stadiwm Ffrainc

Gwengamp a aeth â hi yng ngêm Cwpan Ffrainc. Y sgôr derfynol oedd 2 i 1. Clywyd mwy na 80,000 o bobl yn ymuno i ganu anthem genedlaethol Llydaw, Bro gozh ma zadoù, yn Stadiwm Ffrainc ym Mharis, ac Alan Stivell yn eu plith.

Dyma’r tro cyntaf i rywbeth o’r fath ddigwydd yn hanes pêl-droed yn Ffrainc. Penderfynodd yr Arlywydd Sarkozy beidio â mentro i'r cae pêl-droed i gyfarch y ddau dîm...

3 comments:

Anonymous said...

Gwych - dwi'n rhyw amau y bydd y ffeinal yma yn rhy fath o dro-bwynt i'r Llydawyr - o beth wela i doedd yr un faner tricoleur Ffrengig ar gyfer un o'r ffans! Gwych. Mae'r ffeinal wedi dangos i'r Llydawyr eu bod nhw'n gryf ac mae wedi dangos i'r Jacobiniaid nad yw Llydaw eto'n farw.

Oes clipiau fideo o bobl yn canu'r anthem yn y stadiwm. Cefais guip rhywle ar faner anferth Gwenn ha Du yn y stadiwm ond methu ei ffeindio eto! Dydy fy Ffrangeg na'm Llydaweg yn ddigon da i nafigetio'r wefannau priodol!

teod-karv said...

http://www.dailymotion.com/video/x98r0o_bro-gozh-coupe-france-guingamp-renn_webcam

’rwy'n credu - gwaetha'r modd ’dwy' i ddim yn gallu gwylio fideos ar y cyfrifiadur ’rwy i'n gweithio arno ’nawr.

Anonymous said...

lot o stwff da ar y wefan newyddion yma:

http://www.agencebretagnepresse.com/