15/04/2009

Y Sbaeneg a’r Saesneg yn bygwth y Fasgeg a’r Galiseg wedi i’r Cenedlaetholwyr Golli Grym


Lauburu (pedwar pen) - arwydd Basgaidd traddodiadol

Daeth tro ar fyd yng Ngwlad y Basg gan fod y cenedlaetholwyr wedi colli grym yno yn dilyn yr etholiadau diweddar. Cafwyd datblygiad tebyg yng Ngalisia, lle y disodlwyd llywodraeth y glymblaid rhwng y sosialwyr a’r cenedlaetholwyr. Mae’r Partido Popular Sbaenaidd mewn grym bellach yng Ngalisia, a chafwyd cytundeb rhwng y Partido Popular a phlaid y PSOE i reoli Euskadi, y rhan o Wlad y Basg sydd â chryn dipyn o ymreolaeth.

Ymhlith blaenoriaethau rheolwyr newydd Euskadi, mae hyrwyddo’r Sbaeneg, a diau y gall hyn olygu ddiwygio neu ddinistrio’r polisïau iaith cryf sydd wedi sicrhau mai Basgeg yw prif gyfrwng addysg yno. Mae ysgolion cyfrwng Sbaeneg bron â diflannu yn Euskadi ac addysg Fasgeg wedi dod yn fwyfwy arferol.

Bwriad llywodraeth newydd Euskadi yw cynnig Saesneg yn yr ysgolion, ochr yn ochr â Basgeg a Sbaeneg, gan ddadlau bod hynny’n cyd-fynd â’r angen i gofleidio globaleiddio. Mae hefyd, wrth gwrs, yn golygu bod y Fasgeg yn gorfod cystadlu yn uniongyrchol â’r Saesneg.


Er ei bod yn annhebyg y gall un llywodraeth ddad-wneud yr holl waith da a wnaed dros y Fasgeg yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae llawer yn ofni’r gwaethaf. Yn ôl Iulen Urbiola Loiarte, sydd yn gweithio i Euskara Kultur Elkargoa (Sefydliad y Diwylliant Basgaidd) yn Nafarroa (Navarre), mae polisïau iaith y PSOE a’r PP
yn y rhanbarth Basgaidd hwnnw wedi bod ‘yn drychinebus i normaleiddio’r Fasgeg.’

Yng Ngalisia, mewn modd tebyg, ymddengys mai blaenoriaeth gan y weinyddiaeth newydd yw cael gwared â pholisïau sy’n bleidiol i Galiseg yn yr ysgolion ac mewn addysg uwch.

Y stori yn llawn:

http://www.eurolang.net/index.php?option=com_content&task=view&id=3158&Itemid=0

No comments: