15/04/2009

Pwdin Priwns Llydewig

250g blawd
150g siwgr
4 wy
750ml llaeth
Pecyn o briwns

Cymysgwch y blawd a’r siwgr.

Ychwanegwch yr wyau fesul un, ac yna’r llaeth, wedi ei dwymo.
Cymysgwch yn dda â chwisg.
Irwch ddysgl ag ymenyn.
Rhowch y prŵns yng ngwaelod y ddysgl, ac yna’r toes.
Pobwch mewn ffwrn boeth (220°C) am awr.
Tynnwch y pwdin o’r ddysgl pan fydd wedi oeri ychydig.

(rysáit gan Jacqueline Bidard)

No comments: