15/04/2009

Cwestiwn a ofynnir yn aml yw ‘Beth yw ystyr yr enw "Llydaw"’?



Mae Kenneth Jackson yn ei lyfr Language and History in Early Britain (Edinburgh, 1953, adarg. 1971), paragraff 47, tudalen 375-6, yn ei darddu o’r Frythoneg *Litawia, gan ddilyn Ifor Williams, Breuddwyd Macsen (Bangor, 1927) ac R. J. Thomas, Enwau Afonydd a Nentydd Cymru, i (Cardiff, 1938).

Dichon mai’r un elfen a geir yn enw Latfia, a gallai olygu rhywbeth fel ‘tir ar lan dŵr’. ‘Ce mot a peut-être le sens de littoralis’ (Efallai mai’r glannau yw ystyr yr enw hwn), meddai Joseph Loth yn ei Vocabulaire Vieux-breton (Paris, 1884; adarg. 1970), tudalen 176.

Byddai’r cysylltiad â dŵr yn egluro, efallai, paham y ceir Llydaw hefyd yn enw Llyn Llydaw, yn Eryri. Byddai hefyd yn cyd-fynd ag ystyr yr enw arall ar bentir Llydaw, sef Arfor (aremoricus).

3 comments:

Anonymous said...

Diolch, difyr iawn, wastad wedi meddwl o ble ddaeth 'Llydaw'.

Serch hynny, dydw i ddim yn siarad Ffrangeg, beth yw ystyr 'Ce mot a peut-être le sens de littoralis’?

Gallu deall efallai fod cyswltt Indo-Ewropeaidd rhwng Latfia a Llydaw (er 'mod i'n meddwl fallai fod y gair 'Lithwania' - Lietuva - hefyd yn perthyn yn etymolegol i'r gair Latfia hefyd?) ond ddim mor siwr os yw Llyn Llydaw yn gysylltiedig - edrych fel dau gysyniad wahanol.

teod-karv said...
This comment has been removed by the author.
teod-karv said...

'Ce mot a peut-être le sens de littoralis’ = Efallai mai’r 'glannau' yw ystyr yr enw hwn.

Mae tarddiad enwau lleoedd yn faes peryglus ond mae'n debyg eich bod yn iawn...

Os yw'r enw'n golygu 'glan' byddai hynny'n hawdd yn mynd yn enw ar dir ar lan llyn. Rhaid cofio bod ystyron geiriau'n aml yn ymgyfyngu gyda threigl amser.