02/04/2009

Prisiau Tai yn Llydaw


Bydd darllenwyr Breizh-Llydaw yn gyfarwydd â'r sôn a fu am brynwyr o Brydain Fawr yn chwyddo'r farchnad dai yn Llydaw ac felly'n rhoi pris prynu cartref y tu hwnt i lawer o Lydawiaid ifainc. Bellach, a'r swigen wedi torri ac economïau drwy'r byd yn wynebu argyfwng, nid yw'n annisgwyl gweld bod prisiau tai yn Llydaw wedi gostwng.


Yn ôl http://www.french-property.com/news/french_property_market/property_prices_france/ ar gyfartaledd, pris metr sgwâr o eiddo yn Llydaw yn 2006 oedd 1,896€, yn 2007 ’roedd yn 2,033€, ond erbyn 2008 ’roedd wedi gostwng i 1,991€.


Ystyrir ei bod yn debygol y bydd gostyngiad o ryw 10% ym mhris tai yn Ffrainc eleni, ac er y gall y sefyllfa newid, ymddengys y bydd prisiau'n dal i ddisgyn yn 2010 a 2011. Mae gweld eiddo'n colli gwerth yn beth trychinebus i rai, ond mae'n dda gweld nad oes modd bellach weld Llydaw'n fan hwylus i gyfalafwyr i wneud arian mawr mewn byr dro ac er afles i'r bobl leol.

No comments: