03/04/2009

Gellir dysgu Llydaweg yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth, ond pam y mae’n werth meddwl am astudio Llydaweg wrth wneud gradd yn y Gymraeg?


Gŵyr pawb bron fod y Llydaweg yn ddeniadol am fod cymaint o’i geirfa sylfaenol eisoes yn gyfarwydd i’r Cymro: alc’hwez (allwedd), bara, kastell, du, erer (eryr), foll (ffôl), gwenn... Mae’r rhestr yn hir, hir ac yn cynnwys hir, a hefyd hir,hir o ran hynny.

Gellid mynd i sôn wedyn am yr ystyriaethau diwylliannol, hanesyddol a gwleidyddol sydd ynghlwm wrth ymroi i ddysgu Llydaweg, ac am yr ieithgwn a’r llenorion a fu’n ymddiddori yn yr iaith drwy'r canrifoedd: John Davies o Fallwyd, Edward Llwyd, Carnhuanwc, Ambrose Bebb, T Gwynn Jones, Twm Morys, Robin Llywelyn...

Gan mai iaith Geltaidd sydd wedi dod o dan ddylanwad y Ffrangeg yw’r Llydaweg, mae ei dysgu hefyd yn agor llygad y myfyriwr i hyd a lled dylanwad y Saesneg ar y Gymraeg.

Ar ben hyn oll, gall dysgu’r iaith fod o help i’r sawl sydd am wella ei afael ar ramadeg y Gymraeg. Drwy ddod i ddeall sut y mae dweud pethau yn Llydaweg, dysgir hefyd sut y mae gramadeg y Gymraeg yn gweithio.

Er mwyn darlunio’r math o help y mae dysgu Llydaweg yn ei roi i’r sawl sydd am roi sglein ar ei Gymraeg, cymerwn bedair enghraifft lle y mae Llydaweg pob-dydd yn cytuno â Chymraeg llenyddol.

1. Mae’r Llydaweg yn gwneud defnydd helaethach na Chymraeg llafar o ffurfiau berfol cryno, ac mae medru defnyddio ffurfiau cryno o gymorth mawr wrth ysgrifennu Cymraeg ffurfiol, traddodiadol. Er nad yr un yn union yw’r gystrawen yn y ddwy frawddeg ganlynol, er enghraifft, yn y frawddeg Gymraeg mae’r defnydd o’r ffurfiau cryno, ar troi ac ar pwysleisio, yn tynhau’r arddull. Mae’r defnydd o’r ffurfiau cryno ar y berfau Llydaweg cyfatebol, sef treiñ a pouezañ, yn rhan o Lydaweg llafar pob-dydd:

Pan dry’r bardd i siarad am y goedwig, pwysleisia’r lliwiau glas a brown.

Pa dro ar barzh da gomz eus ar c’hoad e pouez war al livioù glas ha gell.

Mewn Cymraeg anffurfiol, llac, ceid:

Pan mae’r bardd yn troi i siarad am y goedwig, mae’n pwysleisio’r lliwiau glas a brown.

2. Bydd myfyrwyr sy’n dilyn modiwlau ‘gloywi iaith’ yn gyfarwydd iawn â chael eu cywiro am ysgrifennu os ar ddechrau cymal enwol gofynnol. Yma ceir bod y cymal yn Llydaweg yn cael ei ffurfio yn union fel mewn Cymraeg traddodiadol:

Ni wn ai Cymro ydyw.

N’ouzon ket ha Kembread eo.

Mewn Cymraeg anffurfiol a llac, ceid:

’Dwy’ i ddim yn gwybod os mai Cymro yw e.

3. Mae’r cymal perthynol negyddol yn faen tramgwydd arall i’r sawl sy’n ceisio ysgrifennu Cymraeg ffurfiol, ac unwaith eto gwelir bod y Llydaweg yn cadarnhau’r hyn sy’n draddodiadol yn Gymraeg:

Gwelais i’r merched na allant ddod.

Gwelet em eus ar merc’hed na c’hallont ket dont.

Mewn Cymraeg anffurfiol a llac, ceid:

Fe welais i’r merched sydd ddim yn gallu dod.

4. Mae dysgu rhifolion y Llydaweg yn help i’r sawl sydd am ddysgu’r rhai traddodiadol yn Gymraeg. Drwy lwc, mae’r rhai Llydaweg hefyd yn haws, am nad oes cyfrif ‘ar ddeg’ nac ‘ar bymtheg’:

Naw llyfr ar hugain
Nav levr warn-ugent
Dau ddeg naw llyfr

Tri chi a deugain
Tri c’hi ha daou-ugent
Pedwar deg tri c(h)i

Pymtheg pont a phedwar ugain
Pemzek pont ha pevar-ugent
Naw deg pum(p) pont
Manylion pellach:

No comments: