(llun oddi ar wefan Skol Ober - sefydliad sy'n cynnig gwersi Llydaweg drwy'r post)
Yn 2008 bu 4,880 o bobl naill ai mewn dosbarth Llydaweg, neu'n dilyn gwersi Llydaweg drwy'r post, neu ar gwrs preswyl Llydaweg, sef cynnydd o 6% ar y niferoedd am 2007.
Yn 2009-09 bu 3,400 o oedolion yn dilyn dosbarthiadau wythnosol. Gwelwyd y cynnydd mwyaf yn Kernev (De-Orllewin a Chanolbarth Llydaw), cynnydd o 37%, ond yn ardal Brest mae'r nifer mwyaf o ddysgwyr: 623 mewn dosbarthiadau nos.
Mae 350 o bobl yn dilyn cyrsiau gohebol i ddysgu Llydaweg. Skol Ober yw'r prif gorff sydd yn cynnig gwersi o'r math hwn: http://www.skolober.com/
Mae bron 250 o athrawon yn gofalu am y dosbarthiadau a'r gwersi eraill i oedolion, hanner ohonynt yn gwneud hynny yn gwbl wirfoddol.
Ffynhonnell: Bremañ
No comments:
Post a Comment