02/04/2009

Capel Lokeored wedi ei losgi'n ulw

Ar ddydd Iau, 26 Mawrth, 2009, aethpwyd â saith o bobl i'r ddalfa i'w holi ynghylch ymosodiadau ar eiddo'r Eglwys yng Ngorllewin Llydaw wedi i gapel Lokeored (Loqueffret), yn Neheudir Penn-ar-Bed, gael ei ddinistrio gan dân. Adeiladwyd y capel yn yr 16eg ganrif,

Cafodd yr heddlu a'r newyddiadur La Telegramme lythyr yn honni mai TABM (True Armorik Black Metal), grŵp gwrtheglwysig, a oedd yn gyfrifol am y difrod, ond nid oes dim sicrwydd fod hynny'n wir.

Mewn gwirionedd, efallai mai'r un diweddaraf mewn cyfres o ymosodiadau gan grŵp Satanaidd yw hwn. Mae'r capel a losgwyd mewn man go anghysbell ac ’roedd gwerth €300,000 o waith adfer i fod i dechrau arno.

No comments: