On’d yw’n hen bryd i’n geiriadurwyr ddeffro i ddefnyddio lliw i gyflwyno cenedl enwau i ddysgwyr, ac i siaradwyr iaith gyntaf hefyd, o ran hynny, am eu bod hwythau, erbyn heddiw, fel arfer yn cael cryn drafferth i wahaniaethu rhwng enwau gwrywaidd a rhai benywaidd.
Mae’n amlwg mai rhywbeth rhywiaethol yw defnyddio pinc i ferched a glas i fechgyn, ond byddai dilyn y gwahaniaeth gwirion ac ystrydebol hwnnw, ac arfer pinc am enwau benywaidd a glas am rai gwrywaidd, yn ffordd ddifyr a syml i helpu o leiaf rai pobl i gofio cenedl enwau.
Nid dweud ’rwyf mai dyma’r ateb i broblem dysgu cenedl enwau, o bell ffordd, dim ond meddwl ein bod yn colli cyfle i gamu ymlaen yn y cyfeiriad iawn.
Mae’n wir bod rhai enwau a all fod yn wrywaidd neu’n fenwyaidd, ond hawdd fyddai naill ai defnyddio lliw arall iddynt hwy, neu eu hargraffu hanner mewn un lliw a hanner mewn lliw arall.
Dyma ychydig eiriau Cymraeg a Llydaweg i ddarlunio’r pwynt, ond nid rhywbeth cyfyngedig i ddysgu’r ieithoedd Celtaidd yw hyn.
amann ymenyn
anv enw
askorn asgwrn
aval afal
avel gwynt
bag cwch
bara bara
beaj taith
bro gwlad
butun baco
chapel capel
c’hoar chwaer
c’hoariva theatr
darn darn
doare dull
dour dŵr
douar daear
enez ynys
euskareg Basgeg
evn aderyn
flaer drewdod
fourmaj caws
goañv gaeaf
gouel gŵyl
gouzoug gwddw
gwin gwin
gwreg gwraig
heol haul
holen halen
houad hwyaden
istor hanes
kazh cath
kelc’hgelaouenn cylchgrawn
kegin cegin
kentel gwers
kilometr cilometr
kloc’h cloch
krogenn cragen
levr llyfr
lizher llythyr
logodenn llygoden
marc’had marchnad
mell pêl
moger wal
nerzh nerth
noz nos
palez palas
paper papur
peoc’h heddwch
pont pont
prof anrheg
romant nofel
sal ystafell
skol-veur prifysgol
strinkerez cawod
taksi tacsi
teltenn pabell
ti tŷ
toull twll
ui wy
yec’hed iechyd
yezh iaith
3 comments:
Syniad da!
Hefyd dw i'n cael fy synnu bod 'na gymaint o eiriau Cymraeg a'r Llydaweg yn debyg i'w gilydd.
Os yw o ddiddordeb, mae llyfr bach ar gael gan Gymdeithas Cymru-Llydaw yn rhoi rhyw 1,200 (yn yr argraffiad diweddaraf) o eiriau tebyg... y rhai amlycaf. Bydd ar werth ar ein stondin yn Eisteddfod y Bala, neu mae modd ei archebu drwy anfon neges at yr ysgrifennydd drwy'r Wefan. Diolch am y sylw.
Mi na i alw heibio'ch stondin i'ch cyfarfod chi felly.
Post a Comment