14/04/2009

Ffrindiau ffug yn Llydaweg

eithin, i ni, ond lann i'r Llydawyr... a llan (eglwys) yw iliz yn Llydaweg, er bod yr elfen lan yn dal mewn llawer o enwau lleoedd yn Llydaw


Dyma ychydig eiriau Llydaweg a all fod yn gamarweiniol gan eu bod yn debyg, neu'n lled-debyg, o ran ffurf ond yn wahanol, neu'n rahannol wahanol, o ran ystyr:

Abrant = ael (amrant = malvenn)
Amzer = tywydd (yn ogystal ag ‘amser’)
Avel = gwynt (awel = aezhenn)

Bag = cwch, bad (bag = sac'h)
Blev = gwallt (yn ogystal â ‘blew’)
Bras = mawr (bras ‘seimlyd’ = druz)
Brezhell = macrell (brithyll = dluz)
Bugel = plentyn (ond mewn un dafodiaith; ‘bugail’ = maesaer)
C’hwilañ = cnuchio (chwilio = klask)

Diankout = mynd ar goll (dianc = tec'hout)
Eost = cynhaeaf (yn ogystal ag ‘Awst’)
Ezhomm = angen (eisiau = c’hoant)

Ffraezh = wedi ei ynganu'n glir (fraeth = teodet-mat)
Gourc’hemennoù = cyfarchion (yn ogystal â ‘gorchmynion’)
Gwall = anffawd (gwall = fazi)
Gwaz = gŵr (gwas = mevel)
Gwerz = baled (gwers = kentel)
Heol = haul (heol = ru, hent, straed)
Kala = Calan (cala = kalc'h)
Kalc’h = cala (calch = raz)
Kalon = stumog (yn ogystal â ‘calon’)
Kezeg = ceffylau (yn ogystal â ‘cesig’)
Klouar = mwynaidd (claear = gouyen)
Koadenn = darn o bren (coeden = gwezenn)
Kont = cyfrif (cont = forzhioù)
Krediñ = mentro, meiddio (yn ogystal â ‘credu’)
Krog = wedi dechrau (crog = kroug)
Loeroù = hosanau (llodrau = bragoù)
Louzoù = moddion (llysiau - ar y bwrdd bwyd = legumaj)
Mamm-guñv = hen fam-gu, hen nain (mam-gu = mamm-gozh)
Meur = goruchel, pwysig (mawr = bras)
Naon = eisiau bwyd (newyn = marnaon)
Padout = parhau (peidio = chom hep; paouez)
Paz = peswch (y pas = ar paz-yud)
Penn-sizhun = wythnos i (penwythnos = dibenn-sizhun)
Poan = anhawster (yn ogystal â ‘poen’)
Purañ = sgwrio (puro = glanaat)
Rak = oherwydd (yn ogystal â ‘rhag’)
Seul = po – e.e. seul vuioc’h, seul welloc’h ‘gorau po gyntaf’ – (sawl ‘llawer’ = meur a)
Tin = teim (tin = revr)
Trugarez = diolch (trugaredd = truez)

Cofiwch fod ffrindiau ffug ar y ddwy ochr, felly, er enghraifft:

Blwch = boest (blouc'h = di-flew, llyfn)

Bwyta = debriñ (boueta = bwydo)

Casglu = dastum (klask = chwilio; ceisio)
Cawl = soubenn (kaol = bresych)
Coch = ruz (kaoc’h = cachu)
Cwmwl = koumoulenn (koumoul = cymylau)

Dwrn = meilh-dorn (dorn = llaw)
Gast = kiez (gast = putain)
Glân = naet (glan = pur)
Llosgi = deviñ (yn ogystal â 'leskiñ')
Merch = plac'h (yn ogystal â 'merc'h')

Papur = kelaouenn (yn ogystal â 'paper')
Plant = bugale (plant = planhigion)
Torri = troc'hañ (yn ogystal â 'terriñ')

Tosyn = burbuenn (tosenn = bryn)
Tost = klañv (tost = agos)

Ysgyfarnog = gad (skouarnek = clustiog)




No comments: