20/04/2009

Mae chwyldrowyr yn disgwyl am fy mhen

Landreger (Tréguier)

Mae’n arferiad gen i fynd bob dydd i neuadd farchnad Landreger, i brynu fy mara os nad i brynu pethau eraill. ’Rwy’n meddwl mai braf iawn yw’r alïau culion sydd yng ngogledd y dref: Ali Kercoz, Ali’r Tri Thwrnai a Heol Colvestr, a hwythau wedi eu hamgylchynu gan furiau uchel a chan dai hynafol, rhai a fu’n dyst i’r hanes ’rwy’n mynd i’w adrodd ichi yn awr.

Ddau gan mlynedd yn ôl ’roedd Pierre ac Ursule Taupin yn aros gyda’u pum plentyn mewn tŷ sy’n wynebu sgwâr yr Eglwys Gadeiriol. Heddiw mae plac ar yr adeilad er cof am Ursule, y torrwyd ei phen ym mhen draw’r sgwâr honno ar 4 mai, 1794. ’Does dim byd anarferol am dorri pennau merched adeg y Chwyldro Ffrengig. Ond yn Landreger? Pam ’roedd y gilotîn yno? Onid yn Lannuon (Lannion) y câi pobl eu dyfarnu i’w dienyddio, a chael torri eu pen yn ddiymdroi? Dyma chwilio ymhellach i’r hanes.

Rhai duwiol oedd y Taupiniaid. Cafodd Le Mintier, esgob olaf Landreger – y gwelir cerflun ohono uwchben ei fedd yn yr eglwys - waith iddynt yn ei balas. Gwas ystafell oedd y gŵr, a’i wraig yn forwyn.

Dechrau’r Chwyldro oedd hi a syniadau’r cyfnod hwnnw’n gwbl wrthun i’r Esgob. Gwelwyd ei agwedd yn glir pan luniodd ddeiseb i wrthwynebu’r llw o ffyddlondeb i’r Weriniaeth a orfodwyd ar yr holl eglwyswyr yn 1790. ’Roedd ar fin cael ei ddwyn i’r ddalfa pan lwyddodd i ddianc oddi wrth y gwarchodfilwyr a mynd ar draed gyda’i was i gael lloches mewn castell ar lan y môr, bum lig o Landreger. Drannoeth y bore aed â hwy mewn cwch pysgota i Jersey, lle y buont tan 1796. Y pryd hynny aeth yr Esgob i Loegr, lle y bu farw yn llundain yn 1801. Mae’n siŵr ei fod yn adnabod Yann-Vari al Lae, offeiriad o Lydawr a gafodd loches ar Jersey ac yn Llundain, ac a ysgrifennodd gerdd faith yn Llydaweg, sef Myfyrdodau Cristionogol ar y Chwyldro Ffrengig, lle y darllenir:

Deuthum i Loegr amser maith yn ôl;
Pan fo’r galon yn llawn hiraeth, blinir wrth aros;
Ac nid oes gennyf ddim gobaith i groesi’r môr unwaith eto!
Och! Yn Ffrainc ni ddioddefir nag offeiriad na phregethwr.

Gwrthododd Pierre Taupin fudo i Loegr gyda’i esgob, a dychwelodd i Lydaw, lle y brwydrai hyd eithaf ei allu yn erbyn y Gweriniaethwyr a oedd wedi lladd ei wraig. Bu farw mewn ymladdfa yn 1798, wedi ei saethu gan ei elynion.

A beth am Ursule? Sut fywyd a gafodd hi wedi i’w gŵr ffoi? Daliodd yn driw i’w ffydd, a byw’n gynnil gyda’i phlant. Wedi 1790 câi ei hystyried yn wraig i alltud, ac o’r herwydd aed â’i holl eiddo a’i holl hawliau oddi arni.

1794 oedd blwyddyn Teyrnasiad Braw, ac aed â mintai fawr o filwyr o Estampes, yn Normandi, i Landreger i roi terfyn ar y rhai nad oeddent wedi bodloni i’r drefn. Dywedwyd wrthynt fod Ursule Taupin yn cuddio dau offeiriad nad oeddent wedi tyngu’r llw. Pan gyrhaeddodd y milwyrei thŷ, ceisiodd yr offeiriaid ffoi dros doeau’r tai ond fe’u daliwyd, a daliwyd Ursule hefyd. Wedi noson yn y carchar aed â hwy i Lannuon, lle y gwnaethant sefyll eu prawf ymhen tri diwrnod. Fe’u condemniwyd i’w dienyddio, a thorrwyd pennau’r ddau offeiriad y diwrnod hwnnw, 3 Mai 1794. Yr un fyddai tynged Ursule Taupin yn Landreger drannoeth. A’i breichiau wedi eu clymu rhoddwyd hi ar gefn ceffyl a oedd yn dilyn y gert a gludai’r gilotîn i ben draw’r Sgwâr. Treuliodd ei noson olaf yn union yn ymyl ei thŷ.

Ar ddiwrnod ei dienyddio ’roedd yn gwsigo ffrog wen ac arni bum rhosyn gwyn, una am bob un o’i phlant. ’Roedd yn ddeunaw ar hugain oed pan fu farw, a ‘Hiroes i’r Brenin’ oedd ei geiriau olaf.

Mwy nid erys dim o’i bedd, nag o o’r pum llwyn rhosod gwynion a dyfai arno, yn ôl y chwedl. Y cwbl sydd yw’r plac hwnnw a roddwyd ar ei thŷ gan Neuadd y Dref i gofio am ddeucanmlwyddiant ei marwolaeth.


Darn gan Jacqueline Gibson a gyhoeddwyd gyntaf yn rhifyn 49 (Awst 2008) o Breizh / Llydaw. Cyf. Rh. H.

No comments: