21/04/2009

Beth sydd mewn enw?

llun: Portread o Hemon ar glawr cyfrol o ddramâu a gyfansoddwyd ganddo.
Yn 1985, rhoddwyd enw Roparz Hemon (1900-1978) ar yr ysgol uwchradd Lydaweg a sefydlwyd gan Diwan yn Ar Releg-Kerhuon, nid nepell o Frest. Ac yntau’n eiriadurwr ac ysgolhaig o fri, yn fardd, yn nofelydd, yn ddramodydd ac yn ymgyrchydd iaith cwbl unigryw yn hanes Llydaw, nid oes amheuaeth nad oedd yn enw teilwng iawn ar y sefydliad arloesol hwnnw, yn enwedig gan fod Hemon yn frodor o Frest ac wedi ysgrifennu nofel, Nenn Jani, yn disgrifio’r ddinas fel yr oedd cyn y Rhyfel. Hemon yw’r gŵr a wnaeth fwyaf i lusgo llenyddiaeth Lydaweg i’r ugeinfed ganrif a gweithiodd ar hyd ei fywyd, yn aml mewn amgylchiadau anffafriol iawn, i ddadlau ei bod yn rhaid i Lydaw edrych tua’r gwledydd Celtaidd eraill yn hytrach na thua'r dwyrain.

Ryw bymtheng mlynedd wedi enwi Skolaj Roparz Hemon, dyma ymgyrch gan wrthgenedlaetholwyr yn Llydaw i bardduo enw Hemon, a chydag ef bopeth y saif y mudiad cenedlaethol drosto. Oherwydd ei fod yn gyfrifol am ddarllediadau radio yn Roazhon (Rennes) yn ystod y cyfnod yr oedd yr Almaenwyr yn rheoli, ac yn wir, yn falch fod y Llydaweg o’r diwedd yn cael y mymryn lleiaf o gydnabyddiaeth swyddogol, a hefyd ar sail ychydig frawddegau a ysgrifennodd, mynnodd gelynion i’r iaith na ellid byth ganiatáu ei enw ar sefydliad addysgol. Gan ei bod yn rhaid plygu i’r awdurdodau neu golli pob cefnogaeth ariannol, ac am fod cymaint o ddrwgdeimlad wedi ei greu, dilëwyd ei enw.

Onid yw’n nodweddiadol fod enw gŵr nad oedd ond am weithio er lles y Llydaweg wedi cael ei amharchu fel hyn? Pryd, tybed, y caiff enw Churchill ei ddileu oddi ar enwau sefydliadau a strydoedd, am ei fod o blaid defnyddio arfau dinistr eang, yn ddiwahân ymhlith pobl ddiniwed, a phryd y caiff pob ysgol a heol a enwyd ar ôl Jules Ferry eu hailfedyddio drwy Ffrainc, am ei fod yn hiliwr digyfaddawd? Nid dadlau o blaid camau o’r fath yw f’amcan, dim ond sylwi mor rymus yw gelynion y Llydaweg hyd heddiw, a chyn lleied o gydbwysedd sydd wrth ddefnyddio enwau pobl... ac wrth wrthod eu defnyddio.

Dyma eiriau Winston Churchill (1874 - 1965):

‘’Rwyf o blaid bwriadol ledaenu bacteria a baratowyd, gan ddilyn trefn arbennig, ymhlith pobl ac anifeiliaid, llwydni... i ddinistrio’r cnydau, y clwyf du, i ddifa ceffylau a da byw, a’r pla, er mwyn lladd nid yn unig fyddinoedd cyfain, ond hefyd drigolion ardaloedd eang.’

‘’Dwy i ddim yn deall pam mae pobl mor ddicra wrth ddod i ddefnyddio nwy. ’Rwy’n gryf o blaid defnyddio nwy gwenwynig yn erbyn llwythau anwar. Dylai’r effaith foesol fod yn dda... a byddai’n lledaenu rhyw fraw ofnadwy.’

Ac wele eiriau Jules Ferry (1832 –1893):

‘Rhaid dweud yn agored fod gan yr hilion uwchraddol hawl dros yr hilion israddol...


Dywedaf eto fod gan yr hilion uwchraddol hawl, gan fod arnynt ddyletswydd. Mae arnynt y ddyletswydd o wareiddio’r hilion israddol.’

No comments: