Cyfres o atgofion plentyndod ar lan y môr, a glas ieuenctid ym Mrest, yw cynnwys pennaf llyfr diweddaraf Pierrette Kermoal, Hunvre, d’an Hollsent. Gwelir ‘breuddwyd’ y teitl yn nisgrifiadau coeth yr hafau hirfelyn tesog pan fu’r ddwy chwaer ifanc yn treulio oriau diddig yn chwarae ar y traeth. Er gwaetha’r portreadau annwyl a chynnes o’r difyrrwch, nid yw’r awdur yn rhamanteiddio ei gorffennol. Gall y môr, sy’n rhoi cymaint o ddiddanwch iddynt, hefyd foddi pobl, fel y dengys yr olygfa arswydus lle mae’r plant yn dystion i deulu yn cael eu hachub o’r tonnau gan eu ffrindiau. Yn anffodus, nid achubwyd pawb. Mae anhapusrwydd eu mam hefyd yn tywyllu naws yr atgofion wrth i’w phriodas anodd a’i hiraeth affwysol am Frest, ei thref enedigol, gael eu dadlennu drwy lygaid y plant. Hoffais yn arbennig olygfa’r ymweliad â’r stabl lle caiff y celfi eu storio dros dro, yn barod i ddychwelyd i Frest gyda hwy. Bu’r fam yn treulio oriau yn adrodd hanes y dodrefn i’r plant, ac mae’r portread ohoni’n syllu ar y dodrefn, ac yn eu byseddu, yn datguddio dwyster ei hiraeth a’i digalondid mewn ffordd gynnil a chredadwy iawn.
Ceir rhythmau amrywiol yn y naratif wrth newid o’r person cyntaf, unigol a lluosog, i’r trydydd person ac yn ôl eto. Effaith hyn yw bod y golygfeydd yn llifo, un ar ôl y llall, heb fynd yn undonog. Ceir newid cywair wedi i’r teulu symud i Frest. Dyma’r ‘devezhioù louet ha dispi’ wrth i’r awdur ymdopi â thlodi ei theulu ac â phroblemau’r arddegau. Dyma’r lle y gosodir yr atgofion yn eu cyd-destun hanesyddol ac y ceir darluniau celfydd o gymeriadau Brest wrth i’r dref ailgodi wedi difrod yr Ail Ryfel Byd. Prin yw’r sôn am y fam yn yr ail ran o’r llyfr ac erys rhai cwestiynau heb eu hateb - a oedd hi’n hapusach wedi dychwelyd? Beth a ddigwyddodd i’r celfi? Nid dyma sy’n poeni’r awdur bellach, fodd bynnag, wrth iddi neidio rai blynyddoedd i sôn am ei chyfnod fel darpar athrawes yn Roazhon.
Lleolir diweddglo’r hanes mewn mynwent, a’r awdur yn synfyfyrio dros ei mam yn ei henaint, gan adleisio dechrau’r llyfr pan fu’n hel atgofion am lais ei mam. Dyma ddiwedd twt i’r ysgrif wrth i’r awdur osod blodau ar feddau’r teulu, yn union fel yr arferai ei mam ei wneud flynyddoedd yn gynt. A dyma, felly, ‘hollsent’ y teitl, dybiwn i. Mae’r arddull ffres a chynnil a’r darlunio deheuig a dethol yn gwneud yr atgofion amryfal hyn yn gyfraniad gwerthfawr i’r genre hel atgofion yn llenyddiaeth gyfoes Llydaw.
Pierrette Kermoal, Hunvre, d’an Hollsent, (Aber 2008) 10€
14x20 – ISBN 978-2-916845-05-0
No comments:
Post a Comment