13/04/2009

Gwobr Lenyddol Sten Kidna i Mich Beyer am ei nofel 'Etrezek an Enez'

Yn Webnoz, a gynhaliwyd yn Ar Bonoù yn y Mor-Bihan yn ddiweddar, dyfarnwyd gwobr Sten Kidna 2009 i Mich Beyer am ei nofel Etrezek an enez (An Alarc'h embannadurioù). Panel o ddeg o feirniaid a wnaeth y dewis.

Y wobr oedd 700 € a cherflun pren o waith Olier Berson. Treuliodd Olier flwyddyn yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth o dan gynllun Erasmus, dysgodd Gymraeg yma, ac mae'n cadw cyswllt agos â Chymdeithas Cymru-Llydaw.

Gweler ymhellach y blog hwn:

http://kerlenn-sten-kidna.nireblog.com/


Cofiwch edrych ar y seremoni wobrwyo ar Webnoz ar Brezhoweb:

http://www.brezhoweb.com/?mode=accueil


No comments: