14/04/2009

Argraffiadau Llydawr ar ei Daith i Gymru

Ym Mellag (Mellac), Kernev (Penn-ar-Bed / Finistère), o 4 Ebrill tan 8 Tachwedd, 2009, cynhelir arddangosfa uniaith Ffrangeg â'r teitl 'Impressions de Voyage 1838 / 2009 - un jeune Breton au Pays de Galles'.

Mae'n edrych ar daith Kervarker (La Villemarqué) i Gymru yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg... Adroddir yr hanes yn gryno yn Gymraeg yn y llyfr Afiaith yng Ngwent, gan Mair Elvet Thomas.

Mae'n rhyfeddol sut y mae cynifer o Lydawiaid yn ymddiddori yn y Llydaweg fel crair mewn amgueddfa heb wneud yr ymdrech leiaf i'w defnyddio...hyd yn oed yn yr amgueddfa... Yng Nghymru ceir o leiaf haenen denau o Gymraeg dros bethau tebyg, fel arfer...


Wedi ysgrifennu hynny, deallaf fod haenen denau o Lydaweg yn yr arddangosfa hon hefyd... Ym Maenordy Kernod, Mellag, lle y mae'r arddangosfa, mae arwyddion mewn pedair iaith (Llydaweg, Cymraeg, Ffrangeg a Saesneg) yn egluro'r cysyllltiadau a fu, ar hyd y canrifoedd, rhwng Cymru a Llydaw. Mae hefyd daflen wybodaeth i ymwelwyr yn y pedair iaith. Mae'n drueni na wnaed ymdrech debyg gyda'r wefan.

No comments: