12/04/2009

Colli Actor o Lydawr

Rhaglen O Chezus un o berfformiadau Teatr Brezoneg Penn ar Bed, 1980-1981. Ar y cefn, rhestrir y gweithiau a berfformiwyd gan y grŵp er 1974, pan gafodd ei sefydlu: Egile, gan Per-Jakez Helias, War varh etrezeg ar mor, gan J. M. Synge, Ki-Luks, gan P Williams (a ŵyr rhywun ai gwaith Cymraeg oedd hwn yn wreiddiol?), Karantez kriz, karantez droug, gan Bryn Williams (sef Cariad Creulon yn Gymraeg), Eun tamm douar divalo, a gyfansoddwyd gan y grŵp, Lapous-den penn ar Bed, gan Synge eto, An Ostaj, gan Brendan Behan a Bitekle, gan Gwillou Kergourlez.
Wedi salwch maith, bu farw'r actor Rémi Derrien ar 30 Mawrth, 2009. Fe'i ganwyd yn Lannejen (Lanvénégen), yn 1946, ac ’roedd bron yn 63 oed.

Gan Derrien, yn ôl yn 1973, y sefydlwyd y cwmni theatr Llydaweg,Teatr Penn ar Bed. Er mwyn sicrhau bod digon o ddeunydd difyr a pherthnasol i gynulleidfaoedd cyfoes, ymroddodd Derrien i drosi gweithiau dramatig i Lydaweg ac yna eu llwyfannu. Yn 1977, felly, dyma gyfieithu Playboy of the Western World (Lapous-den penn ar Bed), gan Synge. Cafodd y sawl a fu ar gwrs Llydaweg KEAV yn 2008 wylio perfformiad gan gwmni drama arall o drosiad a wnaed ganddo o ddrama gan Dario Fo, sef O Chezuz! Gwaith arall gan Dario Fo a gyfieithiwyd ganddo yw Mistero Buffo. Trosodd hefyd The Hostage (An Ostaj) gan Brendan Behan, Testamant ar C'hi, o waith gan Ariano Suassuna, ac Arsenic and Old Lace (Arsenik ha koz dantelaj), gan Joseph Kesselring.

Yn 1987 ysgrifennodd Derrien ei ddrama ei hun: Gwragez (Gwragedd).

Fel athro Saesneg yr enillai Rémi Derrien ei fara caws, a daeth hefyd yn wyneb cyfarwydd i wylwyr rhaglenni teledu Llydaweg. ’Roedd yn rhan o dïm cynhyrchu'r cylchgrawn Brud Nevez.

No comments: