‘’Rwy’n mynd ar ’ngwyliau i Lydaw a licen i glywed pobol yn siarad Llydaweg. Pa ardal sy orau i fynd iddi?’ Ni wn faint o weithiau y gofynnwyd hyn imi, ac nid oes ateb hawdd nac un calonogol iawn, braidd fel pe bai rhywun yn dweud: ‘’Rwy’n mynd i dreulio wythnos yn crwydro hen siroedd Maesyfed a Brycheiniog, ac yna’n teithio i lawr drwy Went. Ble clywa’ i bobol yn siarad Cymraeg?’ Gwyddom oll fod digon o siaradwyr Cymraeg yn yr broydd hynny, rhai sy’n gweithio mewn swyddi lle y defnyddir yr iaith, rhai sy’n mynychu ysgolion, a ffermwyr mewn ambell ardal hefyd, ond at ei gilydd nid yw’r Gymraeg yn amlwg iawn yn y gymdeithas yno.
Rhaid cofio mai yn y gorllewin mae’r ardal lle y câi’r Llydaweg ei siarad gan bron pawb yn y gymdeithas wledig tan 60au a 70au’r ugeinfed ganrif. A thynnu llinell yn fras o rywle ychydig i’r gorllewin o Sant-Brieg (Saint-Brieuc) yn y gogledd i rywle ychydig i’r dwyrain o Gwened (Vannes) yn y de mae’r fro Lydaweg draddodiadol, ond rhaid cofio hyd yng nghanol yr ugeinfed ganrif nad oedd yr iaith yn amlwg yn y trefi na hyd yn oed y pentrefi mawr. ’Roedd yn ddirmygedig, yn gysylltiedig â thlodi, ag anwybodaeth ac â bod yn wladaidd. Byddai digon o o Lydaweg i’w chlywed yn y rhan fwyaf o fannau gwledig, er hynny. Dangosir y ffin honno ar y map uchod o wefan geobreizh.com. http://www.geobreizh.com/breizh/bre/index.asp
Dyma, felly, Orllewin Llydaw, Breizh-Izel (Basse-Bretagne) ‘Llydaw Isel’ fel y'i gelwir, am mai’r gorllewin a roddid ar y gwaelod ar fapiau cynnar, nid am fod y tir yn isel.
Nid yw’r holl siaradwyr traddodiadol, sef pobl wedi ymddeol a ffermwyr oedrannus yn bennaf, wedi diflannu o Orllewin Llydaw, ac erbyn hyn mae hefyd, mewn sawl man, blant mewn ysgolion Llydaweg neu mewn rhai dwyieithog, rhywbeth nad oedd sôn amdano tan y 70au. Mae pobl eraill sydd wedi glynu wrth eu hiaith hefyd, a rhai sydd wedi ailafael ynddi, a gwrthod mynd gyda’r llif. Eto i gyd, rhaid cyfaddef mai fel iaith gudd, y synnir am Llydaweg gan lawer o ymwelwyr. Mae i’w gweld ar arwyddion erbyn hyn, wrth gwrs, mae modd tiwnio i mewn i raglenni radio Llydaweg ar orsafoedd lleol yn y rhan fwyaf o fannau yn y gorllewin, ac mae rhywun hefyd yn debyg o sylwi ar ambell gryno-ddisg ac arno ganeuon Llydaweg yn yr archfarchnad. ’Dyw taro ar bobl yn sgwrsio yn yr iaith ddim mor debygol, gwaetha'r modd.
Yn ôl arolwg TMO, mae bellach 206,000 o bobl yn medru Llydaweg drwy Lydaw i gyd, 50,000 yn llai na deng mlynedd yn ôl, ac mae 22% o drigolion Gorllewin Llydaw yn deall yr iaith, gyda 13% yn ei medru. Yno, o hyd, y ceir trwch y siaradwyr Llydaweg, rhyw 172,000 ohonynt. http://kemener.wordpress.com/2009/03/11/langue-bretonne/
Hyd heddiw, yn y mannau gwledig, ambell dro clywir yr henoed yn siarad Llydaweg â’i gilydd, ac mae'r iaith gan ambell ffermwr cymharol ifanc hefyd. Mae canolbarth Llydaw, o amgylch Karaez (Carhaix) a Kallag (Callac), dyweder, cystal man â’r un i gael hyd i siaradwyr traddodiadol, ond i fod yn sicr o glywed yr iaith mae angen mynd i rywle lle y mae gweithgareddau cyfrwng Llydaweg wedi eu trefnu, er enghraifft y cwrs iaith a gynhelir bob haf gan KEAV, ac a fydd yn Kastellin (Châteaulin) eleni, neu’r rhai a drefnir gan Kalon Plouha, gan Roudour etc. Mae hefyd fodd i ddysgwyr fynychu ‘cyrsiau gwely a brecwast’ lle y cânt, rhwng eu gwersi, eu lletya yn nhai siaradwyr Llydaweg.
No comments:
Post a Comment