16/04/2009


Gan Ofis ar Brezhoneg dosberthir bathodyn bach, sef spilhennig, i siaradwyr Llydaweg ei wisgo fel y gallant gael eu hadnabod yn syth gan bobl sydd yn awyddus i ddefnyddio’r iaith.

Yr un syniad sydd yma ag yn achos bathodyn Bwrdd yr Iaith Gymraeg, ond bod bathodyn y Llydawiaid dipyn yn harddach na’r dyfynnod plastig sy’n cael ei ddosbarthu bellach yng Nghymru. Mae un y Llydaweg yn cynrychioli llygad, yn edrych i’r dyfodol, os deallais yn iawn.

Mae’n syniad da er mwyn rhwyddhau cyfathredbu yn yr iaith, ond rhaid dweud na welir llawer o bobl yn gwisgo’r spilhennig, na bathodyn Bwrdd yr Iaith ychwaith o ran hynny!

http://www.ofis-bzh.org/bzh/actualite/index.php

2 comments:

Anonymous said...

beth yw ystyr spilhennig?

teod-karv said...

...dim mwy na 'bathodyn bach' - mewn gwirionedd, ystyr 'spilhenn' yw 'pìn' (= yn debyg o fod yr un elfen ag yn 'spill' yn Saesneg 'sbilsen' yn Gymraeg). 'spilhenn' yw'r gair a arferir am y math hwn o fathodyn, ac y mae '-ig' fel '-ig' yn Gymraeg yn 'oenig', 'orig', 'ychydig' - h.y terfyniad bachigol yw '-ig' = yn golygu 'bach'. Mae'n cael ei ddefnyddio yn llawer mwy yn Llydaweg nag yn Gymraeg, felly, e.e., mae llawer o enwau anwes yn gorffen ag '-ig', e.e. 'Anna' > 'Annaig' / 'Naig', neu 'Frañsoaz' (o'r Ffrangeg 'Françoise') > 'Soazig' etc.