26/03/2009

TV Breizh yn rhoi ei raglenni Llydaweg yn rhodd

Mae TV Breizh wedi hen ymwadu â'r Llydaweg er mwyn canolbwyntio ar ddarlledu deunydd poblogaidd yn Ffrangeg, ond bellach mae'r cwmni wedi rhoi'r 500 o oriau a gynhyrchwyd ganddo yn Llydaweg yn rhodd i'r gymdeithas Dizale. '

’Doedden ni'n gwneud dim â'r rhaglenni hynny, felly meddylion ni y byddai'n dda petai Dizale'n gallu manteisio arnyn nhw rywsut neu ei gilydd, yn hytrach na'u bod yn gorwedd yn hel llwch yn ein cypyrddau,' meddai Gael Desgrées du Lou, Rheolwr TV Breizh.

Ymhlith y deunydd mae trosleisiadau o raglenni Perry Mason a Colombo, cartŵnau, a ffimiau fel Appolo 13, Lancelot a Marion ar Faoued, yn ogystal â rhifynnau o'r rhaglenni cylchgrawn Tro-war-dro ha Mil Dremm.

Mae Andre Lavanant, Llywydd Dizale, yn dweud y caiff y rhaglenni eu defnyddio yn yr ysgolion ac ar y Rhyngrwyd. Cânt eu digido hefyd gan Gwarez Filmoù Breizh.

No comments: