26/03/2009

Bas-data Enwau Lleoedd Llydaw



Nid oes amheuaeth nad oes gan Lydaw gyfoeth unigryw o enwau lleoedd amrywiol a diddorol, a bod yr enwau hynny’n ddrych i hanes y wlad ac i ddatblygiad ei diwylliant. Mae’n sicr hefyd y gall enwau lleoedd fod yn bwnc llosg a pheri i bobl wylltio, yn enwedig os teimlant fod rhyw newid diangen yn cael ei gyflwyno!

Pwy o Gymru a fu yn Llydaw na sylwodd ar enwau lleoedd Llydaweg sy’n debyg i rai Cymraeg: Koadaskorn (Coedasgwrn), Melioneg (Meillionog), Manac'hti (Mynachdy), Plounevez-ar-Faou (Plwynewydd y Ffawydd), Pont Ledan (Pont Lydan), Beg ar Garreg Hir (Pigyn y Garreg Hir), Landelo (Llandeilo), Tourc’h (Twrch), Langolen (Llangollen), Trelevenez (Trelawenydd) etc? Mae’n amlwg, fodd bynnag, fod enwau Llydaweg yn cael eu dileu weithiau, er enghraifft am fod swyddfa’r post yn eu hystyried yn anodd i bobl uniaith Ffrangeg.

Pwy eto na sylwodd fod gwahanol sillafiadau a ffurfiau i rai enwau: Montroulez / Montroules (Morlaix), Roazhon / Roazon (Rennes), Plouaret / Plouared etc? Mae’n amlwg nad peth da mewn gwlad fodern yw methu cytuno ar un sillafiad yn Llydaweg.

Bellach, er mwyn cadw treftadaeth enwau lleoedd Llydaw rhag cael ei cholli wrth i rymoedd canoli ac anwybodaeth am y gorffennol ei bygwth, mae Ofis ar Brezhoneg (Swyddfa’r Llydaweg) wedi penderfynu agor ei bas-data enwau lleoedd, sef KerOfis i bawb.

Mae KerOfis ar y gweill ers 90au’r ugeinfed ganrif ac fe’i defnyddir gan yr Ofis wrth benderfynu pa ffurfiau y mae’n argymell eu defnyddio ar fapiau ac ar arwyddion.

Yn KerOfis bydd manylion pob enw lle a astudiwyd, ac mewn rhai achosion bydd hefyd esboniadau geirdarddol. Dyma gasgliad a fydd wrth fodd y chwilfrydig, yr ymchwilydd a’r sawl sydd yn awyddus i ysgrifennu cyfeiriadau yn Llydaweg, yn hytrach nag yn iaith y wladwriaeth fawr sydd yn rheoli Llydaw.

Yn KerOfis ceir dros 44,000 o enwau lleoedd, dros 36,000 o ynganiadau a recordiwyd, mwy na 14,000 o amrywiadau orgraffyddol a 58,000 o ffurfiau hynafol – a’r cwbl ar gael yn rhad ac am ddim ar Wefan Ofis ar Brezhoneg.

Mae KerOfis hefyd yn rhoi’r ffurf Lydaweg ar enwau estron (enwau gwledydd, afonydd a moroedd etc.) ac enwau dosbarthiadau gweinyddol (cymunedau, ardaloedd trefol etc.) Onid peth da i ni yng Nghymru fyddai parchu’r ffurfiau a argymhellir yn Llydaweg, hyd y bo modd, ac anghofio am y rhai Ffrangeg? Wedi’r cwbl, wrth drafod Cymru, a ydym am i bobl dramor ysgrifennu Carnarvon, Landovery a Flint ynteu Caernarfon, Llanymddyfri a’r Fflint?

Bydd hyn oll ar gael o 8 Ebrill, 2009.

No comments: