25/03/2009

Llyfrgell newydd yn Kawan, Bro-Dreger




Ar 21 Mawrth, 2009, ymgasglodd mwy na chant o bobl ym mhentref Kawan i ddathlu agor cangen newydd o Lyfrgell Ardal Aodoù-an-Arvor (Côtes-d'Armor). Dyma'r tro cyntaf erioed i lyfrgell gyhoeddus sydd yn canolbwyntio ar y Llydaweg gael ei sefydlu.

Ceir yno gasgliadau o lyfrau, disgiau, fideos, cylchgronau ac archifau llenorion Llydaweg. Symudwyd hwy yno o wahanol lyfrgelloedd eraill a cheir hefyd ddeunydd o gasgliadau preifat. Mae'r Llyfrgell ar agor o ddydd Llun tan ddydd Gwener - oriau swyddfa arferol. Mae modd gweld y fideos ar Kaouenn.net.

Manylion pellach ar: http://www.agencebretagnepresse.com/fetch.php?id=14563

No comments: