23/03/2009


Mae Yoran Embanner, o dan gyfarwyddyd Yoran Delacour, newydd gyhoeddi geiriadur poced Gwyddeleg-Ffrangeg / Ffrangeg-Gwyddeleg ac y mae fersiwn Llydaweg-Gwyddeleg / Gwyddeleg-Llydaweg i fod i ymddangos ym mis Mehefin eleni. Paratowyd y testun gan Loïc Cheveau a'r fformat yw 8,5x12cm - 345 o dudalennau. Y pris yw 8,5€
ISBN 978-2-914855-52-5
Mae 8000 o eiriau wedi eu cyfieithu■
Cyfeiriad Yoran Embanner yw: Fouesnant. 71 Hent Mespiolet 29170 Fouesnant
Mae Yoran Embanner wedi cael trafferth i ddosbarthu ei lyfrau yng Nghymru ond os hoffech gael copi o'r geiriadur hwn neu o'r un Llydaweg-Gwyddelge, diau y bydd copïau ar werth ar stondin Cymdeithas Cymru-Llydaw yn Eisteddfod y Bala. Mae eisoes eiriaduron Cernyweg-Saesneg / Saesneg-Cernyweg, Cymraeg-Llydaweg / Llydaweg-Cymraeg etc. etc. ar gael yn y gyfres fach ddifyr hon.

No comments: