24/03/2009

Dyfodol y Llydaweg yn dal yn y fantol...

A yw'n unfed awr ar ddeg ar y Llydaweg? (Cloc Gorsaf Pempoull - [Paimpol])
Mae Ofis ar Brezhoneg (Swyddfa'r Llydaweg) wedi tynnu sylw at yr argraffiad newydd o Atlas yr Ieithoedd, gan UNESCO, a gyhoeddwyd ar 19 Mawrth, 2009. Ynddo, mae'r Llydaweg yn dal i gael ei rhestru fel un o'r ieithoedd sydd mewn perygl mawr o ddiflannu. Cadarnhawyd y casgliad hwnnw hefyd gan ganlyniadau arolwg a wnaed gan TMO, o dan gyfarwyddyd Fañch Broudig, un y rhyddhawyd ei ganlyniadau i newyddiadurwyr y mis hwn.


Yn ôl astudiaeth Broudig, mewn deng mlynedd, gostyngodd nifer y siaradwyr Llydaweg o 240 000 (1997) i 172 000 (2007), lleihad o 28,33 % . Canran y rhai sy'n medru'r iaith yn y Gorllewin yw 13% bellach, tra oedd yn 20 % ddeng mlynedd yn ôl. Ac edrych ar 5 rhanbarth (département) Llydaw, amcangyfrifir bod 200 000 o siaradwyr, neu 206 000 os cyfrifir disgyblion yr ysgolion dwyieithog. Erys canran y Llydawiaid sy'n credu y dylid gwarchod yr iaith, a'i dysgu, yn ddigyfnewid, sef 87%.

Er bod cryn welliant wedi bod mewn polisïau iaith yn Llydaw yn ystod y deng mlynedd diwethaf, gyda'r awdurdodau cyhoeddus a chymdeithasau niferus yn cyflawni gwaith gwerth-chweil, wedi cyfnod hir o golli tir ac o beidio â chael ei throsglwyddo fel iaith yr aelwyd, nid oes dim dwywaith nad ymladd am ei heinioes y mae'r Llydaweg.


Efallai mai'r hyn sy'n destun pryder yn bennaf yw sefyllfa addysg yn Llydaw, am fod yr ymdrechion o blaid yr iaith yno i'w gweld yn gwbl annigonol. Cynyddu o hyd a wna nifer y disgyblion sydd mewn ffrydiau Llydaweg mewn ysgolion dwyieithog, ond mae'r ddarpariaeth yn anwastad a heb ei chydlynu.

Ar ôl blynyddoedd o ddifaterwch ynghylch y Llydaweg, a gelyniaeth agored tuag ati, rhyfeddol yw gweld bod Cyngor Rhanbarthol Llydaw bellach yn gefnogol i'r iaith, ond mae hefyd yn siomedig nad oes gobaith o gyrraedd y nod a osodwyd ganddo, sef cael 20,000 o blant yn cael eu haddysgu yn ddwyieithog erbyn 2010. Dim ond ychydig dros 12,000 sydd heddiw.

Rhaid gweld addysg fel cam mewn strategaeth, oherwydd nid oes modd disgwyl ailgyflwyno'r Llydaweg fel iaith yr aelwyd os na lwyddir i drwytho plant ynddi a'i gwneud yn iaith eu meddwl ac yn iaith eu calon. Yn ôl Lena Louarn, Llywydd Ofis ar Brezhoneg, 'os ydym am i'r Llydaweg godi ei phen yn fuan, rhaid pwyso'n ddi-oed am well trefn i strwythur addysg ddwyieithog yn Llydaw. Dyna'r unig ffordd i sicrhau dyfodol yr unig iaith Geltaidd a siardeir ar gyfandir Ewrop.'

Y stori yn llawn ar: http://www.agencebretagnepresse.com/fetch.php?id=14543 ac ar http://www.agencebretagnepresse.com/fetch.php?id=14433

No comments: