23/03/2009

Newyddion Llydaw ar-lein yn Llydaweg - Bremaik

Mae eitemau o newyddion yn Llydaweg i'w cael ar http://bremaik.free.fr/ - dyna'r cylchgrawn ar-lein Bremaik (y gellid ei gyfieithu 'Yn ddiweddar' neu 'Nawr fach' neu 'Cyn bo hir').

Mae golygyddion y cylchgrawn yn dweud bod ganddynt ddau nod, sef 1. adrodd y newyddion yn gryno yn Llydaweg a 2. cyhoeddi erthyglau byrion.

Gwirfoddolwyr sy'n ysgrifennu'r rhan fwyaf o gynnwys y cylchgrawn, a rhai sy'n cydweithio i gynhyrchu'r misolyn Bremañ (Yn awr) yw'r rhan fwyaf ohonynt.

Os ydych wedi dysgu ychydig o Lydaweg, beth am roi cynnig ar ddarllen Bremaik?

No comments: