05/04/2014

Breizh-Llydaw + Cyfarfod Blynyddol

Ymddiheuraf i bawb am nad ymddangosodd rhifyn Chwefror o Breizh-Llydaw. Ofnaf fy mod wedi digalonni braidd wedi imi gael fy symud o'r Hen Goleg ac na allaf wynebu paratoi rhagor o rifynnau, ar hyn o bryd o leiaf 

Ymddiheuriadau hefyd am na threfnwyd cyfarfod blynyddol. Awgrymodd Nic ein bod yn cynnal cyfarfod blynyddol ym mis Hydref a chytunaf mai syniad da yw hynny. Y pryd hynny bydd modd trafod a ydym am gynnal stondin yn Eisteddfod 2015.

Cyhoeddir dyddiad y Cyfarfod Blynyddol yma yn fuan.

Rhisiart

No comments: