20/08/2013

Y Gyngres Geltaidd 2013



Dyma ddarn bach a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn Breizh-Llydaw yn ddiweddar. Mae Mike Thomas yn sôn am yr hwyl a gafodd yn y Gyngres Geltaidd yng Nghernyw.

Eleni , am y tro cyntaf er 1968 (!), ymunais â’r Gyngres Geltaidd.  Cynhaliwyd y Gyngres yn nechrau mis Ebrill yn Bosvenegh (Bodmin), Kernow (Cernyw) a’r thema oedd Ieuenctid a Dyfodol Diwylliant Celtaidd.  Bu cynrychiolwyr o’r chwe gwlad Geltaidd yn aros yng ngwesty Lanhydrock yno, adeilad moethus â maes golff o’i gwmpas.



Bob bore ’roedd gwersi Cernyweg, rhai splann (ardderchog). Wedyn ’roedd darlithoedd ar thema’r wythnos, gyda siaradwyr o’r chwe gwlad yn cyflwyno gwybodaeth eithaf diddorol. Yn y prynhawniau ’roeddem yn cael gwibbdeithiau i safleoedd hanesyddol yn ardal Bosvenegh, gan gynnwys neuadd y dref a’r amgueddfa yn y dref ei hun. Cawsom weld gorymdaith Gorsedd Beirdd Cernyw, aethom i wasanaeth Cernyweg yn eglwys Sant Petroc yn Bosvenegh a chafwyd taith gerdded o amgylch Lostwydhyel (Lostwithiel). Bob nos cynhelid noson lawen anffurfiol, troyl yn Gernyweg, o dan arweiniad grŵp o Wyddelesau bywiog!



Dyna dda oedd clywed pob un o’r chwe iaith Geltaidd yn cael ei siarad yn naturiol yn yr un fan ac ar yr un diwrnod!  I mi yr oedd hi’n gyffrous bod ar hyd yr amser mewn awyrgylch amlieithog, wedi fy nghwmpasu gan ieithoedd dieithr – y Gymraeg yn eu plith, i ryw raddau, a minnau’n byw yn Lloegr. ’Roedd yno nifer o Wyddelod ac o Albanwyr ac ’roedd pedwar o gerddorion ieuainc o Ynys Manaw a fedrai Fanaweg yn rhugl. Dim ond tri Llydawr a oedd yno.  ’Roedd deg ohonom ni Gymry, a dyma lun o’r garfan o Gymru:

      



Cefais  lawer o hwyl yng Nghernyw.  Cynhelir y Gyngres Geltaidd yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf a gobeithio y caf gyfle i’w mynychu unwaith eto.

No comments: