Yn ddiweddar, cysylltodd y gymdeithas Bretagne Reunie (Llydaw wedi ei Hailuno) â Phrif Weinidog Cymru er mwyn gofyn iddo helpu i ddatrys anghydfod a gododd llynedd rhwng Cymru a Llydaw yng Ngŵyl an Oriant (Lorient).
Dyma'r fersiwn Cymraeg o'r llythyr.
Rhyfedd sut y triniwyd y gwladgarwr o Lydawr a oedd yn awyddus i gywiro'r gamargraff bod Naoned, gefeillddinas Caerdydd, y tu allan i Lydaw!
Naoned (Nantes)
5 Gorffennaf 2013
Annwyl Brif Weinidog,
Mae Cymru,
diolch i weithgarwch ei phobl, ei gwleidyddion etholedig a’i harweinwyr
economaidd, wedi llwyddo i gael, ar ôl hir ymdrechu, radd o hunanlywodraeth fel
y gall benderfynu ei dyfodol ei hun.
Ers llawer o
flynyddoedd, mae gweithgarwch y Cymry wrth ailafael yn eu hunaniaeth ac yn eu
diwylliant, o ddiddordeb mawr iawn i ni yn Llydaw. ’Rydym bob amser wedi
cefnogi’r ymdrechion sydd wedi arwain at greu sefydliadau annibynnol yno.
Drwy ein
cymdeithas Bretagne Réunie, rydym ni yn Llydaw yn dal i weithio i ailsefydlu
Llydaw â’i ffiniau hanesyddol. Rhannwyd ein tiriogaeth ar 30 Mehefin 1941 drwy
ddatganiad a wnaed gan y rhai a gydweithiai â’r Natsïaid adeg llywodraeth
Maréchal Pétain. Mae’r dasg sydd yn ein
hwynebu yn un galed iawn, fel y dengys geiriau’r Fs Gay Mac Dougall,
arbenigwraig annibynnol a benodwyd gan y Cenhedloedd Unedig i ystyried hawliau
Leiafrifoedd yn Frainc. Cyhoeddwyd ei hadroddiad ym Mawrth 2008:
“Er gwaethaf
deddfwriaeth bwysig yn erbyn gwahaniaethu, mae’r rhai sydd mewn cymunedau
lleafrifol yn Ffrainc yn dioddef gan wir wahaniaethu hiliol, rhywbeth sydd â’i
wreiddiau mewn ymagweddiadau ac mewn sefyliadau. Mae gwadu hyn gan wleidyddion
wedi rhwystro mabwysiadu mesurau i sicrhau y cedwir at y ddeddfwriaeth berthnasol
ac i gywiro’r mathau cymhleth o anghyfartaledd yno.”
Bu’r Fs Gay Mac
Dougall yn trafod yn helaeth â gwahanol gymdeithasau Llydewig cyn ysgrifenneu
ei hadroddiad. Ceir syniad o natur y broblem y sonia cynrychiolydd y
Cenhedloedd Unedig amdani wrth ystyried, er enghraifft, i 10,000 o Lydawiaid
orymdeithio drwy Naoned (Nantes) ym Medi 2008 i amddiffyn eu diwylliant ac i
alw am ailsefydlu Llydaw fel uned o fewn ei ffiniau hanesyddol, ond i’r ddau
wasanaeth teledu lleol, a ariennir gan Ddinas Naoned a chan Gyngor Naoned,
beidio â dangos yr un llun o’r achlysur na sôn yr un gair amdano! Rhydd hyn
syniad pa mor galed sy’n rhaid inni ymdrechu i roi gwybod i’r cyhoedd am y
manteision a ddôi o adfer unoliaeth ein gwlad hanesyddol.
A ninnau
wedi ein gwir sensro, o dan ddylanwad y wladwriaeth Ffrengig, boed hynny ym Mharis
neu yn lleol, rhaid inni feddwl am ddulliau arbennig, gan gynnwys gwyliau
diwylliannol, i daflu goleuni ar ein hamcan ac i ddangos ein hymroddiad. Dyma
un rheswm pam yr oedd stondin gan Bretagne Réunie yng Ngŵyl Ryng-Geltaidd an Oriant
(Lorient) yn 2012, gerllaw’r stondin o Gymru. Gwaetha’r modd, dangosai’r
stondin Gymreig fap o Lydaw wedi ei hollti, gyda’r Liger-Atlantel
(Loire-Atlantique) – department 44 – wedi ei dorri i ffwrdd oddi wrth ei mam,
er ei bod yn rhan o Lydaw am dros 1000 o flynyddoedd, tan 1941!
Er mawr ofid
inni, bu i’r panel hwn esgor ar gamddealltwriaeth rhwng un o’n cynrychiolwyr, y
Br Hervé Morvan, a phennaeth Bwrdd Croeso Cymru, y Br Robert Hackett. Dyweodd y
Br Morvan fod y map yn wallus. Atebodd y Br Hackett, yn gwbl gywir ac yn gwbl ddidwyll
bid sicr, fod y map wedi cael ei roi iddo gan Gyngor Rhanbarthol Llydaw. Ac
yntau’n brwydro dros ailuno Llydaw, dyma’r Br Morvan yn mynd ati i gywiro’r map
â phen ffelt, gan ddangos y ffiniau fel yr oeddent tan 1941.
Yn dilyn y
digwyddiad hwn, cwynodd y Br Hackett yn swyddogol a hawlio iawndal am y difrod.
Heddiw, bu i’r llys roi dedfryd llym ar y Br Morvan. Rhaid iddo yn awr dalu
dirwy drom, am iddo deimlo mor gryf fod anghyfiawnder wedi ei wneud drwy
gamddarlunio ffiniau Llydaw.
Hoffem
ddweud, Brif Weinidog, fod yn wir ddrwg
gennym am y digwyddiad anffodus hwn. Byddem yn gwir werthfawrogi pe baech yn
gofyn i’r ddirwy gael ei gostwng neu ei dileu. Mewn gwirionedd, ni chredwn fod
gan y naill blaid na’r llall ddim oll i ennill o’r achos hwn. Yn awr, ni fyddai
cytundeb cyfeillgar yn gwneud dim niwed i’r berthynas ragorol(1) a fu rhyngom
hyd yn hyn ac a fu er lles Cymru a Llydaw fel ei gilydd. Teimlwn y byddai’r
Llydawiaid yn methu amgyffred pam y cymerwyd camau mor eithafol yn erbyn rhywun
sydd yn credu yn ei wlad ei hun. Er mwyn cadw’r berthynas rhyngom ar ei gorau,
erfyniwn arnoch i gysylltu â'r Br Hackett er mwyn gofyn a fyddai’n derbyn
ymddiheurad gan y Br Hervé Morvan yn ddiymdroi. Dyna braf fyddai, pe gwnâi hyn
a thynnu’r gŵyn yn ôl a rhoi’r gorau i’r erlyniad.
Diolchwn ichi
am estyn cymorth inni ac i Lydaw ar yr un pryd.
Gyda’n parch
mwyaf, Brif Weinidog.
Llywydd
Bretagne Réunie
Jean-Fraçoise
LE BIHAN
(1)
Dyma
ddwy enghraifft o’r berthynas gyfeillgar ardderchog a fu rhyngom o’r blaen:
-
Yn
ystod Cwpan y Byd, cyhoeddodd ein cymdeithas Bretagne Réunie daflen (amgaeedig)
a ddosbarthwyd ym mynedfa Stadiwm Beaujoire yn Naoned (Nantes). Am wneud hyn, roedd
un o’n gweithredwyr wedi ei arestio ac aed ag ef orsaf yr heddlu bedair gwaith!
-
Yn
ddiweddar iawn, yn nwy o’n trefi sydd wedi eu gefeillio, Aberhonddu a Gouenou,
trefnwyd ras gan y Blé d’Or Club, diolch i’r Br Jakez Gauchet.
No comments:
Post a Comment