Un hwyliog a heulog oedd penwythnos Cymdeithas Cymru-Llydaw yn Llangrannog, a phawb yn cyd-dynnu'n wych. Roedd 16 ohonom wedi aros i gysgu'r ddwy noson yng Ngwersyll yr Urdd, a 3 arall wedi mynychu ar y Sadwrn ac ar y Sul. Ar y Sadwrn daeth 7 arall am y diwrnod, gan gynnwys Kevin Knox a'i dri phlentyn, Tomos, Iestyn ac Anwen. Roedd yn dda cael croestoriad mor ddiddorol ac amrywiol, gyda Petroc wedi teithio'r holl ffordd o Lundain a Matthew yr holl ffordd o Surrey. Roedd cynifer o wahanol lefelau hefyd, gydag amryw'n rhugl iawn yn yn y Llydaweg, rhai yn y canol a chriw bach o dechreuwyr a oedd yn dysgu'n rhyfedol o gyflym! Roedd pawb yn medru Cymraeg hefyd.
Gwersi iaith a aeth â bryd y rhan fwyaf a fu gennym yn Llangrannog ond bu i rai achub y cyfle i wneud gwahanol weithgareddau - Jaqueline a oedd fwyaf brwd yn y cyfeiriad yna! - dringo gyda rhaffau, cwads, marchogaeth, trampolîn, sgio, saethyddiaeth, cerdded ac yn y blaen... Bu rhai ohonom hefyd yn nofio bob bore cyn brecwast, mwy nag a oedd yn ei wneud yng Nglan-llyn pan fuon ni yno, o leiaf!
Aethom draw i'r Llong yn Llangrannog yn y bws ar y nos Wener a cherdded yno ar hyd Llwybr yr Arfordir ar y nos Sadwrn. Roedd y dafarn arall, y Pentre, i'w gweld yn rhy lawn, a chawsom awyrgylch cynnes a chyfeillgar yn y Llong a chanu byw, a bywiog iawn ar y nos Sadwrn. Nid y lle gorau i geisio sgwrsio, efallai, ond yn eithaf cofiadwy...
Pleser o'r mwyaf oedd cael cwmni Robin eto, ar ôl bod heb ei gweld am ryw flwyddyn, ac roedd presenoldeb Llydawyr - Mona, Bleuenn a Tomaz (a oedd yn gofalu am y gwersi), Jaqueline (a oedd ar wyliau gyda Richard), a Mathieu (a ddaeth atom o Fangor) - yn ychwanegu dimensiwn pwysig i'r profiad dysgu.
Roedd staff y gwersyll yn gymwynasgar ac yn hynaws iawn, yr ystafelloedd yn gyfforddus a'r bwyd yn flasus - felly, diolch arbennig i Urdd Gobaith Cymru.
Mae 27 o luniau o'r achlysur i'w gweld yma: http://www.flickr.com/photos/bara-koukoug/sets/72157606615541752/
No comments:
Post a Comment