28/04/2013

Breizh-Llydaw mis Ebrill ar werth yn awr

Mae'r rhifyn diweddaraf o Breizh-Llydaw wedi cael ei anfon at ein haelodau. Os ydych yn aelod a heb gael copi, e.e. am ichi newid cyfeiriad heb ddweud wrthym, anfonwch neges at rhh@aber.ac.uk. Croeso i eraill holi am gopi hefyd!

Cymraeg oedd prif iaith y rhifyn diwethaf ond mae cryn dipyn mwy o Lydaweg yn hwn. Ymhlith y darnau mae adroddiad Cymraeg ar daith Côr Meibion Maelgwn i Lydaw a darn difyr gan Madison Tazu yn sôn, yn Llydaweg, am yr anawsterau a'r profiadau da a gafodd yn ystod y semester a dreuliodd yn Roazhon (Rennes), prifddinas Llydaw.

No comments: