Yn "Bremañ", rhifyn 368 – Mehefin 2012, mae Herve ar Bihan yn mynegi ei bryderon am ddyfodol y Llydaweg ym mhrifysgolion Llydaw. Poeni y mae yn gyntaf am effaith Deddf Pécresse a ddaeth i rym yn 2007 ac y dechreuwyd ei gweithredu yn Ionawr 2009. Mae’r ddeddf yn manylu ar ryddid ac ar gyfrifoldeb y prifysgolion. Efallai nad yw’n annisgwyl, a’r hinsawdd economaidd fel y mae, mai diwedd y gân yw’r geiniog wrth benderfynu pa swyddi sydd i’w dileu a pha rai sydd i’w creu. Tan yn ddiweddar, ymddangosai fod swydd y tiwtor Cymraeg ym Mhrifysgol Roazhon yn mynd i gael ei dileu o ganlyniad i’r toriadau, ond deallaf bellach fod y swydd honno i’w chadw am flwyddyn arall. Fel yng Nghymru, fodd bynnag, gwelir y prifysgolion yn troi’n fwy o fusnesau nag o sefydliadau addysgol, a’r myfyrwyr yn cael eu cyfrif fel cwsmeriaid.
Yn ail, mae Herve’n poeni am y lleihad yn nifer y myfyrwyr sydd am astudio rhai ieithoedd. Lleihaodd nifer y rhai sydd yn astudio Llydaweg yn Roazhon o ryw 100 dros y deng mlynedd diwethaf, ond bu lleihad o filoedd yn achos y Saesneg, y Sbaeneg a’r Almaeneg yn yr un cyfnod. ‘Mae pob dim sy’n gysylltiedig ag ieithoedd yn crebachu,’ meddai. ‘’Dyw pobl ddim yn gwybod beth i’w wneud â chymhwyster ieithyddol erbyn hyn. ’Dydyn nhw ddim am fynd yn athrawon bellach. Mae hynny’n wir am ein myfyrwyr Llydaweg hefyd,’ meddai, ac mae Herve’n deall pam. ‘Nid rhywbeth sy’n apelio at y myfyrwyr yw llwyddo mewn arholiad a chael gradd Meistr er mwyn ennill cyflogau lleiafswm y SMIC (Salaire Minimum Interprofessionnel de Croissance). Mae’r arholiadau hynny’n anodd. Yn achos y CAPES (Certificat d’Aptitude au Professorat de l’Ensignement du Second degré), er enghraifft, rhaid llwyddo mewn dau faes ac mae hynny’n rhoi braw i’r myfyrwyr. Mae swyddi gyda’r cyfryngau’n apelio, ond ’does dim digon o ddatblygiad wedi bod yn y maes hwnnw.’ Rhwng popeth, nid oes ond ychydig iawn o swyddi yn ymagor i fyfyrwyr sydd wedi arbenigo mewn ieithoedd.
Peth arall sydd yn peri pryder i’r myfyrwyr yw natur y dysgu. ‘Mae deuoliaeth i’w gweld yn y modd yr hyfforddir ein hathrawon: yn Ffrangeg y cân nhw eu hyfforddi, oherwydd rhesymau technegol. O’r blaen ’roedd angen sefyll arholiad i allu cael eich derbyn i’ch hyfforddi, ond mae i’r gwrthwyneb bellach. Gall unrhyw un sydd wedi cael gradd Meistr gofrestru, a bellach ’does dim angen gradd Meistr MEF (Métiers de l’Éducation et de la Formation). Rhoddir cymorth ariannol i fyfyrwyr i astudio ond ni thafolir safon yr hyfforddiant sydd yn cael ei ddarparu gan IUFM (Institut Universitaire de Formation des Maîtres) yn Sant-Brieg (Saint-Brieuc), sefydliad sydd o dan reolaeth Prifysgol Brest er 2007. ’Does neb cymwys yn IUFM Sant-Brieg erbyn hyn, gyda swyddi rhan amser wedi disodli dwy swydd lawn.’
Achos gofid arall yw parhad swyddi darlithio ym mhrifysgolion Roazhon a Brest. Er 2008 mae Canolfan Ymchwil Geltaidd Roazhon hefyd o dan awdurdod Prifysgol Brest, a chyda’r swyddi newydd a grëwyd ym Mrest cafwyd bod un darlithydd i 6.6 myfyriwr. Gellir cyferbynnu hynny â Phrifysgol Roazhon, lle ’roedd, yn 2010, 26.1 o fyfyrwyr i bob darlithydd. ‘Er hynny, deil pobl Brest i gwyno mai Roazhon sydd yn cael y swyddi,’ meddai Herve. ‘Ymddengys mai gweithred wleidyddol a negyddol, gan y rhai mewn awdurdod ym myd addysg, gan lywodraeth Sarkozy a Fillon a chan amryw wleidyddion o wahanol bleidiau, oedd rhoi cymaint o rym i Frest tra bo cymaint o brofiad ym Mhrifysgol Roazhon 2. Gan Brifysgol Roazhon yr hyfforddwyd 90% o’r athrawon sydd heddiw’n gweithio i Diwan ac yn yr ysgolion gwladol. Gyda golwg ar hynny, ’does dim modd dadlau bod y ddwy brifysgol yn gyfartal hyd yn oed.’
Gwêl Herve ar Bihan fod gan y prifysgolion yn Llydaw waith pwysig i’w gyflawni a rhan o’u swyddogaeth yw gwneud pobl yn gyfarwydd â darllen Llydaweg a’u galluogi i feddwl yn yr iaith. Mae arbenigaeth yn y prifysgolion ac unwaith y caiff ei cholli nid yw’n debyg o gael ei hadfer. Dywed fod gwir berygl y bydd rhywrai’n barnu bod adran Lydaweg dros ben yma, un y gellir ei hepgor, heb sylweddoli bod gwahaniaethau ideolegol mawr rhwng Brest a Roazhon. ‘Tra bo Roazhon yn ystyried dyfodol yr iaith, yn cydweithio â Swyddfa’r Llydaweg ac o blaid normaleiddio a normatifeiddio’r Llydaweg fel y bo dyfodol iddi hi ac i’w siaradwyr, mae ystyriaethau o’r fath ymhell o feddwl pobl Prifysgol Brest. Y pwyslais gan yr hen do o athrawon yno, rhai sydd bellach wedi ymddeol, oedd cadw’r iaith rhag bod yn “wleidyddol” ac felly edrych arni fel Ffrancwyr a gwrthwynebu cael graddau yn yr iaith a’r arholiadau CAPES ynddi.’
‘Os penderfynir bod angen cau adran Lydaweg bydd yn ergyd mawr i Lydaw i gyd’, meddai Herve. ‘Bydd hefyd yn rhan o’r broses o geisio cyfyngu’r Llydaweg i Penn ar Bed (Finistère), i ben draw Gorllewin Llydaw, yn unig. Yr hyn sydd ei eisiau, fodd bynnag, yw mwy o ddarpar-athrawon fel y gellir gwella’r ffordd y caiff y graddau Meistr eu cynnig, codi cyflogau, rhoi mwy o wybodaeth i’r fyfyrwyr, adangos i bobl y gall rhai sydd wedi bod yn gwneud rhyw waith arall hefyd fynd yn athrawon. Un ateb fyddai troi’r Ganolfan Hyfforddi Athrawon Dwyieithog, sydd ar hyn o bryd yn rhan o IUFM-UBO Sant-Brieg, yn sefydliad cyhoeddus, o dan Lywodraeth Ranbarthol Llydaw. Byddai hynny’n gyfiawn hefyd a chofio bod y Rhanbarth yn rhoi cymorth ariannol i fyfyrwyr sydd am astudio yno. Fel y mae, mae’r Ganolfan wedi peidio â bod yn weithgar ac yn effeithlon yn y gwaith o hyfforddi athrawon dwyieithog.
21/06/2012
Pryder am y Llydaweg ym Mhrifysgolion Llydaw
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment