11/05/2012

COFNODION CYFARFOD CYFFREDINOL 2012

CYMDEITHAS CYMRU LLYDAW


COFNODION CYFARFOD CYFFREDINOL 2012


yng Nghanolfan Soar, Merthyr Tudful, Ebrill 28ain, 2012

Presennol:

Rhisiart Hincks (Cadeirydd), Niclas ap Glyn, Dafydd Frayling, David Hale, Mike Thomas, Madison Tazu, Hynek Janoušek, Siân Gruffudd (a gadwodd y cofnodion ac a luniodd yr adroddiad hwn, gan fod Gwenno’n abesennol)

Ymddiheuriadau: Gwenno Piette, Rory Francis

1. Adroddiad ariannol

Cyflwynodd Nic ap Glyn (Ysgrifennydd Aelodaeth a Thrysorydd) yr adroddiad.

Mae sefyllfa ariannol y Gymdeithas yn gymharol iach (e.e. mwy o arian yn y banc ar ddiwedd y flwyddyn mewn cymhariaeth â’r llynedd). Trafodwyd yn arbennig y gost o logi stondin yn yr Eisteddfod mewn cymhariaeth â’r incwm dros yr wythnos. Gwerthodd llyfrau ail-law yn dda iawn yng Nglyn Ebwy, felly hoffai Nic dderbyn cyfraniadau i’w gwerthu yn ein stondin eleni. Trafodwyd hefyd y posibilrwydd o gynnal ymgyrch aelodaeth i gynyddu’r incwm sefydlog o’r cyfeiriad hwn.

2. Cwrs preswyl

Trafodwyd y syniad o gynnal cwrs Llydaweg preswyl ym mis Chwefror / Mawrth 2013, a lleoliadau posibl. Ar y cyfan roedd y rhai oedd yn bresennol yn gefnogol i’r syniad.

3. Eisteddfodau

Bydd gennym stondin yn Eisteddfod Bro Morgannwg 2012.


Mae Rory Francis wedi cynnig llunio rota o bobl i ofalu amdani, a Nic wedi cynnig helpu hefyd. Mae aelod o Gymdeithas Gwyddelod Caerdydd wedi mynegi diddordeb mewn rhannu’r stondin gyda ni – os ydyn nhw am fwrw ymlaen â’r syniad, cytunwyd y byddem ni’n gofyn iddyn nhw gyfrannu 1/3 o’r gost (h.y.felly yn cael 1 tocyn mynediad y dydd)

Eisteddfod 2013


Trafodwyd pa mor aml y gallwn ni fforddio llogi stondin yn yr Eisteddfod, gan nad oedd gennym stondin y llynedd. Ni phenderfynwyd ar batrwm pendant (e.e. bob yn ail flwyddyn): bydd yn debygol o ddibynnu ar faint o wirfoddolwyr sy’n byw yn weddol lleol i’r Eisteddfod bob tro. Bydd gofyn i’r swyddogion benderfynu ar ddechrau’r flwyddyn.

4. Ar Redadeg

Cytunwyd y byddai’r gymdeithas yn noddi rhywun i redeg 1 km, hyd at uchafswm o £150 - Rhisiart Hincks a Jacqueline Gibson i benderfynu ar yr union swm.

5. Ethol swyddogion

Etholwyd /ailetholwyd y swyddogion canlynol am y flwyddyn nesaf:

Cadeirydd Madison Tazu


Ysgrifennydd Gwenno Piette


Ysgrifennydd Aelodaeth a Thrysorydd Nic ap Glyn


Golygydd ‘Breizh’ Rhisiart Hincks


Is-Olygydd ‘Breizh’ Hynek Janouck


Gwe-feistr Talat Chaudhri


Cynrychiolydd Llydaw Jacqueline Gibson

No comments: