Ymddengys fod toriadau ym Mhrifysgol Roazhon 2 yn golygu y bydd dysgu Cymraeg yno'n dod i ben. Bob blwyddyn mae dosbarthiadau mawr o ddysgwyr Cymraeg yno, ond o fis Medi 2012 ymlaen ni fydd neb ar gael i ddysgu'r iaith. Buwyd yn cyflogi Cymry Cymraeg am ddwy flynedd ar y tro i wneud y gwaith hwn a bu'n brofiad hynod fuddiol i lawer.
Mae'r swydd Tiwtor Cymraeg yn Adran y Llydaweg a'r Ieithoedd Celtaidd yn cael ei thocio oherwydd pwysau ariannol, ac mae'n ymddangos yn anochel y bydd yn dod i ben. A phob cais am arian yn Llydaw ac yn Ffrainc wedi methu, gwnaeth Herve ar Bihan o Adran y Llydaweg yn Roazhon gais i Brif Weinidog Cymru am gymorth ariannol i gadw'r swydd, gan ddadlau ei bod yn bwysig bod y Gymraeg yn cael ei dysgu mewn mannau y tu allan i Gymru, a bod y berthynas agos rhwng ein dwy wlad yn cael cefnogaeth. (Fel y gwyddys, mae dysgu'r Gymraeg ym Mhatagonia yn cael peth cymorth eisoes.) Gwrthodwyd y cais gan Garwyn Jones ac nid ymddengys fod prifathro Prifysgol Aberystwyth yn barnu bod colli'r swydd yn arbennig o arwyddocaol ychwaith. Y ddadl yw bod pob prifysgol yn annibynnol ac yn gorfod gwneud ei phenderfyniadau ei hun. Y meddylfryd Prydeinig a Ffrengig biau hi, felly.
Dyma ergyd i Lydaw ond gellir ei weld yn gryn ergyd i'r Gymraeg, yn enwedig am fod diwylliant Cymru mor drwm dan ddylanwad y byd Prydeinig. Bob blwyddyn daw nifer o fyfyrwyr o Roazhon i Aberystwyth i astudio Cymraeg a daw amryw'n rhugl yn yr iaith. Gwn am un sydd bellach yn byw yma ac yn dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
No comments:
Post a Comment