31/10/2011

Marwolaeth Yann Fouéré yn 101 oed

Yn y blog, tynnwyd sylw, yn ddiweddar, at waith y cenedlaetholwr pybyr Yann Fouéré, awdur "L'Europe aux cent drapeaux", llyfr y trafodir ynddo bosibiliadau ffederaliaeth yn Ewrop.

Wedi ei eni yn 1910, bu farw ar 25 Hydref 2011. Yn 1941 lansiodd y papur newydd dyddiol "La Bretagne" a rhwng 1942 a 1944, bu'n ysgrifennydd cyffredinol y Comité consultatif de Bretagne (CCB).

Wedi i'r Rhyfel ddod i ben, fe'i condemniwyd am gydweithio â'r Almaenwyr ond ’roedd, erbyn hynny, wedi ffoi i Gymru. O Gymru aeth, yn 1948, i Iwerddon. Cafodd ddychwelyd i Lydaw yn dilyn amnest yn 1953, a dymchwelwyd y dedfryd yn ei erbyn yn 1955. O 1957 ymlaen ’roedd yn llywio'r Mouvement pour l'organisation de la Bretagne (MOB) a'r cylchgrawn "L'Avenir de la Bretagne". Yn y 60au, oherwydd ei ddrwgdybio o fod â rhan yng ngweithgarwch yr FLB (Front de Libération de Bretagne), aeth i Iwerddon i gael lloches eto.

Fe'i claddwyd ar 25 Hydref 2011, yn Gwengamp (Guingamp).

1 comment:

Anonymous said...

Gellir gweld adroddiadau a ffilm o'r angladd ar wfan newyddion ABP:

http://www.agencebretagnepresse.com/fetch.php?id=23643

Ceir rhagor o wybdoaeth am Yann Fouere a'i archif ar wefan Sefydliad YF:

http://www.fondationyannfouere.org/english/

Siôn