07/11/2011

Fouenant (Fouesnant) yn llusgo ei thraed

Ar 5 Tachwedd, 2011, ymgasglodd cefnogwyr y mudiad iaith Ai ’ta! (Hai ati!), a sefydlwyd yn 2005 i ymgyrchu am well lle i’r Llydaweg mewn bywyd cyhoeddus, o flaen neuadd y dref yn Fouenant (Fouen ar lafar yn lleol, a Fouesnant yn Ffrangeg) i alw am drafod diffyg polisi iaith y gymuned â’r maer, Roger Le Goff.

Ymatebodd y maer i’r cais a chafodd glywed cwyn y protestwyr fod y bröydd o dan ei ofal ymhlith y rhai mwyaf amharod i gydnabod hawliau'r Llydaweg.

Nid ydyw Siarter y Llydaweg wedi cael ei llofnodi gan Fouenant ac nid oes yno ysgol Lydaweg na dim arwyddion cyhoeddus yn yr iaith. Yno hefyd cafodd un o ymgyrchwyr lleol Ai ’ta ddirwy o 1690 € gan yr heddlu am ludo glynyn ar arwydd cyfeirio uniaith. Mae’r mudiad wedi ymateb drwy roi anfoneb i’r Cyngor am yr un swm i dalu am argraffu a rhoi yn eu lle 80 o sticeri ar arwyddion cyfeirio’r gymuned.

llun: http://sites.google.com/site/koantik2/Rzh-yezh2.JPG

adroddiad: http://www.agencebretagnepresse.com/fetch.php?id=23758

No comments: