12/09/2011

Addysg ddwyieithog yn symud ymlaen yn Llydaw

Y tymor hwn agorwyd 6 ffrwd newydd lle y ceir dysgu drwy gyfrwng y Llydaweg. Mae 5 o’r rhain mewn ysgolion o dan y wladwriaeth: S.Martin-war-ar-maez /Saint-Martin-des-Champs (ger Montroulez / Morlaix), ar Releg-Kerhuon / Le Relecq-Kerhuon (ger Brest), Kerien /Querrien (yn Penn-ar-Bed / Finistère), Henbont /Hennebont a Sine /Séné (yn y De-ddwyrain). O dan y gyfundrefn Gatholig yr agorwyd y ffrwd arall, yn Muzilheg /Muzillac yn y De-ddwyrain.

Agorwyd hefyd 2 ffrwd Lydaweg mewn ysgolion uwchradd iau: yn Kemperle / Quemperlé ac yn Sizun - y naill a'r llall yn Penn-ar-Bed / Finistère.

http://www.ofis-bzh.org/bzh/actualite/zoom/index.php?actualite_id=388

1 comment:

Anonymous said...

Newyddion da ond y cwestiwn mawr, fel yng Nghymru, yw pa mor effeithiol yw'r addysg yma o ran trosglwyddo'r iaith a chreu awyrgylch lle mae'r iaith yn cael ei defnyddio?

Hyd y gwela' i dim ond addysg trochi sy'n gweithio ac hyd yn oed wedyn, dydy ddim wastad yn gweithio mor effeithiol ag y gallai. Dydy ysgolion 'Div Yezh' ddim yn addysg trochi hyd y deallaf.

Ond beth bynnag, newyddion da. Mae'n bwysig cael y mas critigol er mwyn gallu creu mudiad ac economi i'r iaith a'i llenyddiaeth.