13/07/2011

Atlas Breizh

Aeth mwy na phum mlynedd heibio er pan sefydlwyd y wefan Geobreizh.com gan Mikael Bodlore-Penlaez, dyn o Frest sydd yn dwlu ar fapiau, a chan Divi gKervella, brodor o ardal Treger. Bu’r ddau’n cydweithio sawl gwaith o’r blaen, er enghraifft ar y cyfeirlyfr i faneri Llydaw a’r gwledydd Celtaidd eraill a gyhoeddwyd gan Yoran Embanner: Guide des Drapeaux Bretons et Celtes.

Wedi sefydlu Geobreizh.com, bu modd i’r ddau gasglu rhagor o wybodaeth am y 1,500 o gymunedau yn Llydaw, manylion am eu poblogaeth ac am eu gweinyddiaeth, er enghraifft. Bellach mae’r ddau wedi mynd ymhellach ym myd y mapiau ac wedi cyhoeddi Atlas Breizh.

Amcan yr Atlas yw edrych ar ddaearyddiaeth Llydaw, a’r byd i gyd, a’i chyflwyno’n ddwyieithog. Mae ynddo 180 o fapiau, yn Ffrangeg ar y tudalennau chwith ac yn Llydaweg ar y dde, a chyda phob un ceir darn byr yn egluro’r hyn a gyflwynir. Rhennir y gwaith yn 8 o wahanol feysydd, sef: y byd a’r ddaear, daearyddiaeth, diwylliant, hanes, rhaniadau gweinyddol, y boblogaeth, economeg gymdeithasol Llydaw a rhagolygon y wlad.

Ymhlith y mapiau ceir ambell un annisgwyl, er enghraifft, map lle y newidiwyd y cyflwyniad confensiynol drwy roi’r gogledd ar y gwaelod a’r de ar y brig, a mapiau’n dosbarthu mathau o fwyd lleol, offerynnau cerdd a chwaraeon. Rhoddir sylw hefyd i fannau geni nifer o Lydawiaid adnabyddus.

‘Gall map a luniwyd yn glir esbonio cynifer o wahanol bethau i’r darllenydd,’ medd yr awduron., ‘a gall mapiau fod ar themâu go astrus ambell dro. Gall fod yn well nag egluro mewn ysgrif. Mae modd defnyddio mapiau i ymchwilio i ymddygiad pobl, er enghraifft. Bu rhagflaenwyr inni, er enghraifft, yn defnyddio mapiau wrth astudio’r berthynas rhwng arferion pleidleisio ac arfer mynychu’r offeren. Cynhwyswyd y map hwnnw yn yr Atlas.

Mae’n wir bod yr Atlas yn dangos Llydaw yn cael ei darnio fwyfwy gyda threigl y blynyddoedd. Y peth gwaethaf yw bod ffiniau’n cael eu tynnu’n ddiangen yn rhy aml o lawer. Ein hamcan ni fu dangos Llydaw yn ei chyfanrwydd gan ei gwneud yn glir, ar yr un pryd, sut y cafodd y wlad ei darnio a’i chwalu - gwnaed hynny mewn ffordd hollol annemocrataidd.

Ar hyd y blynyddoedd buwyd yn cyflwyno Llydaw yng nghyd-destun map o Ffrainc, fel rhyw gornelyn, rhyw ffordd ddall ymhell o bob man. A phellhau ryw fymryn oddi wrth y map, a dyna Lydaw yn dir arfordirol o bwys yn Ewrop. Mae ‘ym mhen y byd’ fel yr awgryma’r enw Penn-ar-Bed (Finistère), ond nid ystyr hynny yw ‘diwedd y byd’.

Ar ran y cylchgrawn Bremañ, gofynnodd Milio Latinier i’r cyd-awduron a oedd ganddynt hoff fap yn yr Atlas:

‘Y map o’r Lleuad yn Llydaweg,’ meddai Mikael Bodlore-Penlaez. ‘Dyma ffordd arall o weld yr hyn sydd o’n hamgylch yn Llydaweg. A’r map chwaraeon hefyd, lle y ceir cymysgedd o chwaraeon traddodiadol a chwaraeon cyfoes.’

‘Anodd dewis,’ medd Divi gKervella, ‘ond ’rwy’n hoffi’r map o’r byd cyfan gyda’r planedau a’r sêr yn Llydaweg. Fel arall, efallai y dewiswn y map a ddengys yr hinsawdd a’r tywydd, un o’r rhai ar ddechrau’r gyfrol. Mae’n dweud yn blaen wrthym ein bod ynghlwm wrth ein hamgylchedd.’

Heb os nac oni bai, dyma gyfeirlyfr o’r pwys mwyaf i Lydaw, ac un lle yr eir ymhellach na dim ond ailadrodd yr hyn a gafwyd mewn atlasau blaenorol. Diau y bydd yn codi chwilfrydedd llawer yn Llydaw am eu gwlad ac am eu hiaith. Dylai hefyd fod o ddiddordeb mawr i ni yng Nghymru.

Cyhoeddwyd Atlas Breizh gan Coop Breizh a’i bris yw 35.90 €

No comments: