Bydd cyfarfod i lansio’r llyfr Saesneg
La Maison in Connemara: The History of a Breton,
gan Yann Fouere
rhwng 6.30 a 8.30 ar nos Wener,
16 Medi, 2011,
yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru,
Aberystwyth.
Bydd ei ferch, Rozenn, yn bresennol, ac efallai ei fab; bydd Dafydd Wigley hefyd yno.
Bu Yann Fouere yn ymgyrchu dros hawliau Llydaw ac yn ysgrifennu yn Ffrangeg. Bu’n golygu dau bapur dyddiol yn Llydaw, ac efô a sefydlodd y Gyngres Geltaidd yn 1961. Wedi'r Ail Ryfel Byd bu'n byw yng Nghymru ac yna yn Iwerddon cyn dychwelyd i Lydaw.
Ceir mwy amdano ar wefan Sefydliad Yann Fouere: http://www.fondationyannfouere.org/english/
No comments:
Post a Comment