05/04/2011

Twitter a'r Llydaweg...

Mae Soazig Kervareg wedi dechrau trydar yn Llydaweg ... ffordd dda i bobl i ddysgu ac i wella eu Llydaweg: Enw Soazig ar twitter yw ... @llydawes Er gwybodaeth, mae modd dilyn trydar yn Gymraeg ar ffrwd http://cy.umap.eu - difyr iawn gyda nifer y bobl sy'n trydar yn Gymraeg yn cynyddu o ddydd i ddydd. Datblygwyd system umap gan gwmni Basgaidd ac yna cafodd ei defnyddio gan siaradwyr Catalaneg. Y Gymraeg yw'r drydedd gymuned ieithyddol i ddefnyddio'r system. Mae'r wefan yma: http://www.indigenoustweets.com/ yn cofnodi trydar mewn gwahanol ieithoedd. Stwff difyr arno. (Neges gan Siôn Jobbins)

No comments: