05/04/2011

Modiwl Allanol ym Mhrifysgol Aberystwyth 2011-12 : Llydaweg i Ddechreuwyr drwy gyfrwng y Gymraeg


Hydref 2011 - Mai 2012 Modiwl 40 credyd a ddysgir drwy gyfres o 6 o ysgolion Sadwrn yn Aberystwyth (gan gynnwys yr un olaf pryd y cynhelir prawf llafar). Bydd ymarferion ysgrifenedig i’w gwneud yn dilyn pob ysgol Sadwrn, ac arholiad ysgrifenedig ar y diwedd. Darperir deunydd i’w astudio gartref, gan gynnwys recordiadau sydd yn cyd-fynd â’r gwersi. Croeso i bobl nad ydynt yn gwybod dim Llydaweg ac i rai sydd am ailafael yn yr iaith a’i dysgu’n drefnus. Canolbwyntir ar sut i ddefnyddio’r amser gorffennol a’r amser presennol ac yn y dosbarthiadau pwysleisir ymarfer ar lafar.


Dyma gyfle i’w achub gan na chynhelir y modiwl hwn eto. Manylion pellach oddi wrth: Miss Ruth Fowler, Ysgrifenyddes y Radd Allanol Trwy Gyfrwng y Gymraeg, Adran Y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth 01970 622 239 ruf@aber.ac.uk

No comments: