07/02/2011

Cyswllt Llydewig arall â Llyfrgell Genedlaethol Cymru


view to the cross
Originally uploaded by archerfish

http://llgcymru.blogspot.com/2011/02/gwenn-ha-du-ar-llyfrgell-dydy-hyd-yn.html


Bu un o staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Iwerddon ar drywydd gwaddolwyr o ffoaduriaid o Lydaw a fu mor garedig â chofio’r Llyfrgell yn eu hewyllys.

Aelodau o’r mudiad Gwenn-ha-Du oedd Louis Feutren a’i gyfaill Nevin Henaff. Ysbrydolwyd y rhain gan lwyddiant eu cefndryd Gwyddelig yn eu hymdrechion i ennill annibyniaeth i Iwerddon.

Wedi cyrraedd swyddfa’r cyfreithwyr yn Cill Mhantáin (Wicklow) cafodd Siôn wybod bod Louis Feutren wedi gadael casgliad o bapurau ac ynddo lythyrau, erthyglau a dyddiaduron yn ymestyn dros flynyddoedd maith, rhwng sefydlu’r Gwenn-ha-Du yn y tridegau a 1945, y flwyddyn y bu’n rhaid iddynt ffoi o Lydaw. Wrth ddianc o Lydaw aeth y ddau drwy Gymru ar eu ffordd i Iwerddon. Yn ei ddyddiadur sylwa Nevin Henaff ar y croeso a gafodd yng Nghymru wrth iddo geisio cuddio rhag llid yr awdurdodau Prydeinig. Efallai mai dyma pam y bu mor garedig wrth y Llyfrgell.

Oherwydd i lywodraeth Ffrainc osod pris ar bennau’r ddau yn 1945, ni allodd y naill na’r llall fynd yn ôl i’w mamwlad, ac ar 14 Awst, 2010, gwasgarwyd llwch Louis ar un o gopaon bryniau
Contae Chill Mhantáin (County Wicklow).

Llun o groes yn Contae Chill Mhantáin (Wicklow) oddi ar wefan Flickr: http://www.flickr.com/photos/archerfish/388249481/


No comments: