16/01/2011

Komz brezhoneg er Chapter, Kerdiz - Siarad Llydaweg yn y Chapter,Caerdydd

Gwnaeth amryw aelodau o Gymdeithas Cymru-Llydaw fwynhau cwrdd â'i gilydd i siarad Llydaweg yng Nghanolfan y Chapter ddydd Sadwrn, 15 Ionawr, 2011. Daeth siaradwyr o bob safon ynghyd, rhai a ddechreuodd ddysgu'r iaith yn 2010, rhai sydd yn dysgu Llydaweg gyda'r radd allanol drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth (ffordd i ddysgu Llydaweg na fydd ar gael wedi'r flwyddyn academaidd 2011-12, am fod Prifysgol Aberystwyth yn cwtogi ar ddysgu drwy'r Gymraeg drwy ddileu'r cynllun hwnnw), rhai sydd wedi dysgu'r iaith yn dda ac am fanteisio ar gyfle i sgwrsio a siaradwyr Llydaweg iaith gyntaf o Lydaw.

(Lluniau eraill yn y blog Llydaweg)

No comments: