Yn 2009 dechreuwyd y rhaglen hyfforddi hon a phenderfynwyd ei pharhau a’i chryfhau. Bellach gellir llanw ffurflen i ofyn am gymorth ariannol (5000 € x 2) i astudio am radd feistr mewn dysgu dwyieithog. Gwêl y Rhanbarth mai dyma ffordd ymarferol i hyrwyddo twf addysg ddwyieithog yn Llydaw.Rhaid i’r sawl sydd yn derbyn cymorth ddilyn y cwrs hyfforddiant yn ofalus, sefyll yr arholiadau ar gyfer dysgu mewn ysgolion dwyieithog a dysgu am o leiaf 5 mlynedd mewn dosbarth dwyieithog.
http://www.ofis-bzh.org/bzh/actualite/index.php
No comments:
Post a Comment