16/03/2010

Rownd Gyntaf yr Etholiadau – Mawrth 2010

Mae rownd gyntaf yr etholiadau lleol newydd ei chynnal yn Ffrainc, a’r Llydawiaid yn cael y cyfle i ethol pobl i ddau gyngor, sef un Rhanbarth Llydaw, i’r rhai sydd yn byw yn y rhan fwyaf o Lydaw, ac i Gyngor Ardaloedd Afon Liger (Loire), yn achos y rhai yn y de-ddwyrain pellaf.

Y canlyniad mwyaf trawiadol oedd nifer y rhai a benderfynodd beidio â bwrw eu pleidlais, gan fod lefel y pleidleisio’n isel drwy Ffrainc i gyd. Yn Llydaw, yn Aodoù-an-Arvor (Côtes-d’Armor), ’roedd y ganran uchaf o bleidleiswyr, sef 51.78% o’r rhai a gofrestrwyd, ond yn Il-ha-Gwilen (Ille-et-Vilaine), 47.27% yn unig a aeth fanteisiodd ar y cyfle i ethol cynrychiolwyr.

Yn y ddau ranbarth Llydewig, y Blaid Sosialaidd (PS) a oedd ar y blaen (gyda rhai ecolegwyr wedi ymuno â hwy). Aeth 37.19% o’r pleidleisiau i Jean-Yves Le Drian (Rhanbarth Llydaw) a 34.36% i Jacques Auxiette (Ardaloedd Afon Liger).

Yn yr ail safle ’roedd y gwleidyddion yr asgell-dde sydd mewn grym ym Mharis ar hyn o bryd, gyda 23,73% o’r pleidleisiau i Bernadette Malgorn a 28,09% i Christophe Béchu.

Cafodd Ewrop Ecolegol ei llwyddiant mwyaf yn ardal Liger Atlantaidd (Liger-Atlantel / Loire Atlantique) gyda 16,06%, ac Il-ha-Gwilen, 14,52%. Drwy Lydaw i gyd, eu canlyniad oedd 12,21% (Rhanbarth Llydaw) a 13,64% (Ardaloedd Afon Liger) .

Rhyw 6-7% o bleidleisiau a enillodd y Ffrynt Cenedlaethol drwy Lydaw i gyd.

Drwy Lydaw i gyd, y pleidiau nesaf oedd y rhai ar restri’r Modem a Ni ho savo Breizh (Kristian Troadeg / Strollad Breizh) – a’r rhai olaf hyn yn bleidiau o blaid Llydaw yn benodol. Ym Mhenn-ar-Bed (Finistère), llwyddodd Ni ho savo Breizh (Fe’th Godwn, Lydaw) i ennill 6,82% o’r pleidleisiau.


http://bremaik.free.fr/

5 comments:

Anonymous said...

diolch am hyn. beth mae'n feddwl? Hynny yw, mae system etholiadol Ffrainc yn edrych yn un gymleth i mi.

Beth sy'n digwydd yn yr ail rownd?

Ydy pobl ond yn pleidleisio i'r pleidiau ar y rhestr, bydd y pleidiau'n ail-ffurfio?

teod-karv said...

...dim ond chwarter deall rydw i, gwaetha'r modd. Mae'r hyn sy gen i'n dilyn adroddiad a ddarllenais. Does dim byd gwreiddiol yma! Mae'r bleidlais nesaf y penwythnos hwn, rwy'n meddwl, a bydd y pleidiau a ddaeth ar y gwaelod yn dewis ochri gyda'r rhai mawr sydd yn eu plesio fwyaf, hyd y gwelaf. Efallai y bydd rhyw arbenigwr ar wleidyddiaeth, neu ryw Lydawr sy'n medru Cymraeg, yn gallu egluro'n well. Pan gaf adroddiad ar y rownd nesaf, dylai fod yn gliriach!

Anonymous said...

... edrychaf ymlaen!

teod-karv said...

Mae erthygl Saesneg yma a all fod o ddiddordeb: http://www.agencebretagnepresse.com/fetch.php?id=17830

teod-karv said...

Barn bersonol gan Lydawr o Ecolegwr a holais: “Does dim pleidleisio cyfrannol ond yn hytrach drefn ‘cyntaf heibio i’r postyn’ . Er mwyn mynd yn eu blaen, mae gofyn i’r pleidiau ar y ‘rhestri bychain’ gael cefnogaeth y rhai mawr, a bydd y mawrion yn awyddus yn eu tro i dderbyn y rhai bychain. Mewn rhai achosion, gall y cyfuno hwn sicrhau llwyddiant etholiadol, ond yn achos yr etholiadau hyn yn Llydaw, gallasai Le Drian, arweinydd y Blaid Sosialaidd, fod wedi ennill ar ei ben ei hun. Doedd dim angen iddo gael eraill i ymuno ag ef, ond wrth wneud torrodd draddodiad gan bleidiau unedig y chwith a hefyd, o’r cychwyn cyntaf, bu’n anonest ac yn gwneud sbort am ben y rhai ar restr Ecolegwyr Ewrop, ac felly’r etholwyr y maent yn eu cynrychioli.”