Yn département y Liger-Atlantel (Loire-Atlantique), yn ne-ddwyrain Llydaw, cafwyd y math arferol o gystadlu, sef rhwng y dde (UMP) a’r chwith (PS), ond yng ngweddill Llydaw ’roedd y sefyllfa’n eithaf unigryw, gan fod tair ochr i’r ymgiprys: y Blaid Sosialaidd (Le Drian), yr UMP (Bernadette Malgorn), ac Ecoleg Ewrop (Guy Hascoët).
Yn Liger-Atlantel, cafodd Jacques Auxette (a oedd wedi clymbeidio ag Ecoleg Ewrop) 61.24% o’r pleidleisiau, a’r dde o dan arweiniad Christophe Béchu (UMP) 38.76%. Yn Rhanbarth Broioù-al-Liger (lle y mae Liger-Atlantel), ’roedd y bwlch rhwng y ddwy ochr ychydig yn llai.
Yn Rhanbarth Llydaw, Le Drian oedd yr enillydd amlwg gyda 50.27% o’r pleidleisiau. Dim ond 32.36% oedd cyfran Bernadette Malgorn o blaid y Llywodraeth ym Mharis.
Ystyrir llwyddiant Ecoleg Ewrop Llydaw i ennill 17.37% o’r pleidleisiau yn Rhanbarth Llydaw yn arwyddocaol iawn.
Maes o law, cyhoeddir pwy a fydd yn gyfrifol am beth ar y cynghorau rhanbarthol.
http://bremaik.free.fr/
4 comments:
Ydw i'n iawn i feddwl fod y blaid sosialaidd o dan Le Drinan am reoli ar ben ei hun? Bydd hyn yn golygu na fydd Christian Guivarc'h o'r UDB, sy'n siarad Llydaweg ac yn gefnogol iawn i'r iaith bellach yn dal portffoio Diwylliant?
Newyddion drwg i'r iaith felly?
Mae gan yr UDB 4 sedd a'r pleidiau gwyrdd 7 sedd. Ni wn i eto pwy sydd yn dal pa swyddi...
http://en.wikipedia.org/wiki/Politics_of_Brittany
Mae Lena Louarn, Llywydd Swyddfa'r Llydaweg, wedi cael ei thynnu i mewn fel is-lywydd ar Gyngor Rhanbarthol Llydaw er mwyn ymdrin ag "Ieithoedd Llydaw", yn ôl erthygl yn "Bremañ" (rhifyn 342) ac mae dau o aelodau o'r PC (y Blaid Gomiwnyddol) ymhlith yr is-lywyddion hefyd. Mae wedyn 35 o aelodau ar Gomisiwn Sefydlog y Cyngor, sef 14 aelod o'r Blaid Sosialaidd, 3 aelod o'r Blaid Gomiwynyddol a 2 aelod o Blaid Ecoleg Llydaw.
Jean-Michel Le Boulanger o An Oriant (Lorient) yw'r is-lywydd sydd yn gyfrifol am ddiwylliant, rhywun a benodwyd oherwydd ei gymhwyster yn y maes.
Post a Comment