Mae Ofis ar Brezhoneg, gyda chymorth Prompsit Language Engineering wedi datblygu teclyn cyfieithu awtomatig Llydaweg-Ffrangeg. Mae i'w weld, a'i ddefnyddio, ar wefan y sefydliad hwnnw:
http://www.ofis-bzh.org/bzh/ressources_linguistiques/index-troerofis.php
http://www.ofis-bzh.org/fr/ressources_linguistiques/index-troerofis.php
Os cewch * wrth air, dynoda nad yw'r teclyn cyfieithu yn gyfarwydd ag ef eto, ac mae modd wedyn ichi ofyn iddynt gael eu hychwanegu.
I gael cyfieithiad da, mae angen gwneud yn siwr fod iaith y testun yr ydych am ei gyfieithu yn gywir ac yn safonol, gan y bydd y teclyn yn methu adnabod gwallau sillafu. Mae angen ysgrifennu geiriau yn llawn gyda'r geirynnau priodol o flaen y ferf a'r ffurfiau berfol yn llawn, e.e. am eus, az poa yn hytrach na meus, poa / toa. Ar hyn o bryd, nid yw'r tecyn yn gywbod ffurfiau gorchmynnol y ferf ychwaith, ond mae'n cael ei wella bob dydd!
Dyma roi prawf bach byr arno:
N'eo ket ret gouzout galleg. An troer emgefre a c'hall lavaret deomp!
Il n'est pas nécessaire savoir français. Le traducteur automatique peut dire à nous!
A defnyddio Google translate i gyfieithu o'r Ffrangeg i'r Gymraeg:
Nid oes angen i wybod Ffrangeg. Gall y cyfieithydd awtomatig ddweud wrthym!
Digon dealladwy, er mai 'Nid oes angen gwybod', heb 'i', sydd yn gywir, wrth gwrs.
2 comments:
Y gwerslyfr Esperanto cyntaf erioed yn Gymraeg
Mae'r gwerslyfr cyntaf yn Gymraeg i ddysgu'r iaith ryngwladol Esperanto newydd ymddangos. Arweinlyfr 36 o dudalennau i Esperatno yw'r Mini-Cwrs, yn cynnwys deg o wersi, ymarferion darllen a geirfa. Y gŵr sy'n gyfrifol am y fenter yw Harry Barron o Fachynlleth.
Iaith yw Esperanto a gyflwywyd yn 1887 gan Dr. L.L. Zamenhof yn sgil blynyddoedd o waith. Cynigiodd ef Esperanto fel ail iaith a fyddai'n caniatáu i bobl sydd â gwahanol ieithoedd brodorol gyfathrebu, gan gadw eu hieithoedd a'u diwylliannau eu hunain yr un pryd. Nid yw Esperanto'n ceisio disodli'r un iaith arall; gweithreda fel iaith gyffredin. Cyhoeddwyd yr arweinlyfr bychan cyntaf i'r iaith yn 1910, a chyhoeddwyd geiriadur Cymraeg-Esperanto, Esperanto-Cymraeg yn 1985.
Mae'r Mini-Cwrs Esperanto ar gael am £1.50 a £0.50 cludiant gan Ffederasiwn Esperanto Cymru, 8 Vardre View, Deganwy, CONWY, LL31 9TE.
I wybod rhagor, ffoniwch: Harry Barron ar 07973 367131
Da iawn, wir!
Post a Comment