29/07/2009

Paratoi i redeg dros yr iaith

Flwyddyn yn ôl cynhaliwyd y ras fawr gyntaf – ‘ar Redadeg’ - i godi arian i Diwan, mudiad yr ysgolion Llydaweg. Cafwyd y syniad o redeg o’r naill ben o Lydaw i’r llall gan y Basgiaid sydd yn cynnal eu ‘korrika’ ar draws Gwlad y Basg bob blwyddyn.

Cynhelir ras nesaf Diwan yn 2010, ac mae’r trefniadau eisoes ar y gweill, o dan lywyddiaeth Jean-Michel Sannier.

1,200 o gilometrau fydd hyd y ras yn 2010 a bydd yn dechrau yn Roazhon (Rennes), prifddinas y wlad, ac yn gorffen yn Pondi (Pontivy) – ond nid fel yr hed y frân o’r naill le ‘r llall! Rhennir y cwrs yn 16 o rannau, gyda rhywun gwahanol yn gyfrifil am bob rhan.

I godi arian, rhaid gwerthu’r cilometrau a gwerthu 5,000 o grysau-T. Bydd angen cael hyd i noddwyr hefyd, wrth gwrs.

Yn 2010, bydd hanner yr arian a godir yn mynd i Diwan a’r gweddill i gynlluniau eraill sydd yn hyrwyddo defnydd o’r Llydaweg.

Cafodd y ceisiadau am gymorth eu tafoli gan bwyllgor o ddoethion: Herve Latimier, Riwanon kervella, Fañch Kerrain a Samuel Julien. ‘Tasg ddifrifol ac anodd a fu’n eu hwynebu,’ meddai Michel Sannier, ‘am fod y cynlluniaua gynigiwyd yn ddiddorol ac yn amrywiol.’

Y cynlluniau a gefnogir fydd:
1. Podledu a gwe-radio gan Brudañ ha Skignañ: 6000€


2. Trefnu cyrsiau ymaflyd codwm Llydewig, yn Llydaweg, gan Kevre Gouren Aodoù an Arvor: 5300€

3. Deunydd ddysgiadol ar goedwigoedd a gwrychoedd, gan Ti ar C’hoadoù: 10,000€

4. Llyfrau sain, gan Al Liamm: 10,000€ (Os bydd y cyfrifon yn caniatáu)

5. Breizh Akademi – cwrs Llydaweg a difyrrwch, gan Studi ha Dudi: 6,000€

6. Drama Lydaweg i bobl ifainc, gan Ar Vro Bagan: 6,000€

Tybed a gaiff Redadeg 2010 unrhyw sylw ar y cyfryngau Cymraeg?

Ffynhonnell: Ya!, rhifyn 213, tud. 3

2 comments:

Anonymous said...

byddai'n dda meddwl y fydde Redadeg 2009 wedi denu sylw - ond wrth gwrs dydy newyddiadurwyr BBC Cymru ddim yn darllen y we na'r wasg Gymraeg na Chymreig ... does dim disgwyl iddyn nhw redeg stori mor ddiddorol a hyn - diawch, mae 'na gath lan goeden yn Bargoed neu z-list seleb wedi tarro rhech.

Oes rhywun o'r BBC neu Golwg360 mas yna?!

teod-karv said...

Hyd y deallaf, bob dwy flynedd y caiff ei chynnal ar hyn o bryd, am fod cymaint o waith trefnu a chyn lleied o weithwyr, debyg iawn. Ychydig o sylw a gafwyd ar y cyfryngau yn 2008, er hynny, a hynny a gafwyd oedd oherwydd ymdrechion Tecwyn Evans, Is-lywydd Anrhydeddus Cymdeithas Cymru-Llydaw.

Mae Lloegr yn cael mwy o sylw na Llydaw bob tro!