16/05/2009

Ai gwell Cymraeg gwael na Saesneg da?

Ai gwell Cymraeg gwael na Saesneg da? Yn aml iawn, gall fod, am fod Cymraeg gwael yn rhan hanfodol o'r broses ddysgu. Oddi wrth ein gwallau y dysgwn. Eto i gyd, yr hyn sy'n digwydd yn aml yw bod Cymraeg gwael yn nod ynddo ei hun, gan mai hi yw iaith yr ifainc, iaith y diwylliant slic ac atyniadol. Mae hefyd yn fath o iaith sydd yn apelio at ein diogi naturiol.

Darlledwyd rhaglen gomedi Saesneg o Ferthyr Tudful ar Radio 4 yn ddiweddar, a'r cyflwynydd ffraeth yn awyddus i fychanu'r Gymraeg, yn y lle cyntaf o leiaf. 'Mae arwyddion Cymraeg i'w gweld ym mhob man yma,' meddai wrth y gynulleidfa, 'ond faint ohonoch chi sy'n siarad Cymraeg?' Mae'n amlwg na ddisgwyliai ateb cadarnhaol iawn, ond 'roedd yn galonogol deall bod nifer go lew wedi codi eu llaw, ac 'roedd yn arbennig o braf clywed merch ifanc mewn ysgol Gymraeg yn cyhoeddi'n groyw ei bod hi a'i ffrindiau'n hoffi siarad yr iaith, ond, ychwanegodd, 'Cymraeg gwael sy gyda ni. 'Dŷn ni ddim am siarad Cymraeg fel yr hen bobl.' Yr un math o ymhoffi chwaraeus mewn 'Cymraeg trendi' a oedd y tu ôl i'r slogan 'Hawl i camtreiglo', a welais ar grys-T rywdro.

O ddilyn llwybr Cymraeg gwael, wrth gwrs, Saesneg gyda geiriau Cymraeg a geir yn y pen draw. Gellir hyd yn oed aberthu acen a goslef, fel y gwna rhai Cymry wrth siarad Cymraeg, a chryn nifer o Lydawiaid ifainc sy'n mynnu siarad Llydaweg ag acen Ffrengig, gan eu bod yn cysylltu acenion traddodiadol â bod yn wladaidd, am mai cefn gwlad yw cadarnle traddodiadol yr iaith.

Pan ddaw Cymraeg gwael yn nod ynddo ei hun, mae'n rhan o'r broses o golli iaith. Anodd teimlo ymlyniad cryf wrth iaith sydd yn llawn bylchau geirfaol, nad yw ond yn gyfrnwg i bethau bach pob-dydd ac sydd yn gyff gwawd i 'r rhai nad ydynt yn ei medru, am ei bod mor dyllog a dirywiedig. Gall aros yn fathodyn, fel cenhinen Bedr ar Ŵyl Ddewi neu'r ddraig goch ar bolyn ar sgwâr y pentref. Gall apelio at yr emosiynau, ond nid at y deall.

3 comments:

Emma Reese said...

Diolch yn fawr am y post ardderchog yma.

teod-karv said...
This comment has been removed by the author.
teod-karv said...

Diolch am eich sylw, Emma. Mae Saesneg gwael hefyd yn broblem, wrth gwrs, ond teimlaf yn aml fod safonau dwbl - canmoliaeth fawr i rywun sydd wedi dysgu tipyn bach o Gymraeg, ar y naill law, a disgwyl gafael dda ar Saesneg llafar, o leiaf. Efallai mai 'Bratiaith Pawb' yw gwir bolisi Llywodraeth y Cynulliad?