22/04/2009

Llais Arvorig FM yn Seinio’n Glir


Mewn cyfarfod a drefnwyd gan Arvorig FM ar 4 Ebrill, 2009, cafwyd adroddiad calonogol ar waith yr orsaf radio honno. ‘’Dŷn ni’n darlledu bron 500 o raglenni bob blwyddyn,’ meddai Jean-Claude Le Goaille, llywydd y Pwyllgor Rheoli. Clywyd 600 o bobl yr ardal (Gogledd-Orllewin Llydaw) ar Arvorig FM yn 2008. Mae llawer o’r gwaith a wneir i’r orsaf yn wirfoddol, ond daw cymorth ariannol hefyd oddi wrth yr awdurdodau ac mae 5 o bobl yn cael eu cyflogi.

Sefydlwyd Arvorig FM yn 1995 er mwyn rhoi hwb i’r Llydaweg a dechreuodd ddarlledu yn 1998 yn ardal Landerne (Landerneau - efeilldref Caernarfon). Mae stiwdio’r orsaf yn Kommanna, ym mro’r Menez Are, ryw 250 o fetrau uwchben lefel y môr.

Mae Arvorig FM yn darlledu cerddoriaeth o bedwar ban byd, ond yn Llydaweg mae ei holl raglenni.

No comments: